Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/270

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae yn ymddangos i'r Bedyddwyr lwyddo i raddau helaeth, os nad yn gwbl, i lanhau eu heglwysi oddiwrth y syniadau ag oeddent wedi bod cyhyd yn eu blino; a bod y gweinidogion wedi eu dwyn, braidd yn ddieithriad, i lynu yn ffyddlawn wrth yr egwyddorion a adnabyddid dan yr enw Calviniaeth, ac yn wrthwynebwyr tra phenderfynol i Arminiaeth. Gellir gweled pa olygiadau a goleddid ac a bregethid yn gyffredin yn eu plith hwy, wedi i'r cynhwrf yma fyned heibio, mewn "Traethawd ar y Wisg Wen ddisglaer, Gymmwys i fyned i Lys y Brenin Nefol; sy'n cael ei gwisgo am y Dyn Noeth Truenus, &c. Gan Timothy Thomas, Caerfyrddin. Argraffwyd tros yr Awdwr; gan E. Powell, 1759.". Y mae hwn yn fath o Gorph o Dduwinyddiaeth byr, wedi ei ysgrifenu mewn iaith syml a naturiol; ac y mae wedi cael lledaeniad helaeth yn ein gwlad, ac mewn gwirionedd yn cynnwys Mer Duwinyddiaeth Iachus. Ond fe ymledodd y syniadau Arminaidd i gryn raddau yn yr eglwysi Henaduriaethol neu Annibynol, yn enwedig yn Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Cyn marw Mr. Jenkin Jones, Llwyn-rhyd-Owen, yn y flwyddyn 1742, yr oedd cryn nifer o weinidogion dylanwadol, a'u cynnulleidfaoedd, wedi eu hennill i gofleidio ac i broffesu yn gyhoeddus ei olygiadau ef; ac y mae yn ddiammheuol fod lliaws mewn amryw o'r eglwysi ereill yn cydymdeimlo â hwynt. Yr oedd yr Arminiaeth a ddysgid ganddynt o nodwedd isel iawn, yn enwedig ar Lygredigaeth Gwreiddiol dyn; ac felly llithrasant yn raddol i Ariaeth ; ac, yn mhen amser, i Sociniaeth; yr hyn yw eu nodwedd hyd heddyw. Ond fe gadwyd corph y gweinidogion a'r eglwysi Henaduriaethol neu Annibynol-oblegyd nid ydym yn gwybod yn iawn wrth ba un o'r ddau enw i'w galw—yr un mor ffyddlawn a'u brodyr y Bedyddwyr i athrawiaeth gras, mor benderfynol a galluog i'w hamddiffyn, ac mor eiddigus o bob peth a ymddangosai yn tueddu yn groes iddi.

Gyda golwg ar y Diwygwyr Methodistaidd, yr oeddent ar y cyntaf, fel y mae yn hysbys, yn Nghymru a Lloegr yn un, a'r gwahaniaeth a ddaeth yn fuan i'r golwg rhyngddynt, o ran athrawiaeth, eto heb ymddangos. Pan yr ymddangosodd y gwahaniaeth hwnw, ac yr ymneillduodd Mr. Whitefield oddiwrth Mr. Wesley, yn y flwyddyn 1741, ni a allwn dybied i'r Methodistiaid Cymreig yn unfrydol, ac eto ar y cyntaf, dybygid, heb un cyd-fwriad na chyd-ymgynghoriad â Mr. Whitefield, sefyll dros y syniad Calvinaidd; a'u bod o'r dechreuad, ac heb gymmaint ag un eithriad, wedi cymmeryd tir tra phenderfynol yn