Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/271

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mhlaid yr hyn sydd yn arbenig yn gwahaniaethu yr efengyl fel trefniant gras pen-arglwyddiaethol, trwy haeddiant aberth y Gwaredwr mawr, ar gyfer amgylchiad dyn yn ei golledigaeth a'i drueni. Yn wir, pan y cofir fod y tadau Methodistaidd, gan mwyaf, wedi bod yn cymdeithasu â ac ar ryw ystyr yn ddisgyblion i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, nis gallesid dysgwyl iddynt fod yn ddim amgen. Ond y mae yn ymddangos nad oedd eu Calviniaeth, o'r dechreu, yn tueddu at ddim eithafol, ond o nodwedd hynod o gymmedrol. Yn ei Journal am Hydref 10, 1741, y mae Mr. Wesley yn adrodd am ymddyddan a fuasai rhyngddo â Mr. Howel Harris, yn yr hwn, ar ol bod yn dadleu am ddwy awr y dydd o'r blaen heb ddyfod i un penderfyniad, y dywedai Mr. Harris wrtho, "gyda golwg ar Wrthodedigaeth, ei fod yn ymwrthod â hi ac yn ei ffieiddio yn hollol. A chyda golwg ar barhad mewn gras,-1. Ei fod yn credu nad ydoedd yn athrawiaeth oedd i'w chrybwyll wrth y rhai oeddent heb eu cyfiawnhau, nac wrth neb oedd yn ddifraw a diofal, a llawer llai wrth y rhai oeddent yn byw mewn pechod; ond yn unig wrth y rhai oeddent yn galaru yn ddwys ac na fynent eu cysuro. 2. Yr oedd efe ei hunan yn credu fod yn bosibl i un syrthio ymaith ar ol cael ei "oleuo" â rhyw gymmaint o wybodaeth, wedi "profi y rhodd nefol, ac wedi ei wneuthur yn gyfranog o'r Ysbryd Glan;" a dymunai ar i ni oll gytuno i gadw yn agos, yn y pynciau y dadleuid arnynt, at y geiriau a arferir yn yr Ysgrythyr Lân. 3. Nad oedd efe yn golygu neb wedi ei gyfiawnhau fel nas gailai syrthio, "hyd oni byddai ganddo gasineb trwyadl, parhaus at bob pechod, a newyn a syched gwastadol am bob cyfiawnder." (Wesley's Works, Vol. I. page 340, fifth edition, 8vo. London: 1860.) Mr. Wesley sydd yma yn adrodd: ac y mae yn angenrheidiol cofio ei fod yn adrodd yr hyn a ddywedwyd gan Mr. Harris, mewn ymddyddan rhydd a chyfeillgar, ac ar adeg ag yr oedd amgylchiadau neillduol achos yr efengyl yn y deyrnas, yn peri fod o bwys annghyffredin iddynt gytuno â'u gilydd, can belled ag yr oedd hyny yn ddichonadwy; ac ni a allwn ychwanegu hefyd fod calonau y ddau yn dyheu am fod mewn undeb hollol y naill a'r llall. Ond, er cofio hyn oll, y mae yn amlwg, oddiwrth y dyfyniad hwn, fod golygiadau Mr. Harris yn nodedig o gymhedrol—ei fod yn credu Etholedigaeth, ond yn gwadu fod hyny yn cynnwys Gwrthodedigaeth; ac am yr athrawiaeth o Barhad mewn Gras, ei fod yn bendant yn ei chredu, tra y caniatai fod rhywbeth tebyg