Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/272

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ras ag y gellid ei golli. Y mae rhai llythyrau o eiddo Mr. Wesley ato, ac wedi eu hargraffu yn ei weithiau ef, sydd yn bendant yn cadarnhau mai cymmedrol fel hyn oedd ei syniadau, mor gymmedrol nes yr oedd Mr. Wesley braidd yn dadleu nad oedd gwahaniaeth rhyngddynt. Mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo Gorphenaf 29, 1740, agos i naw mis cyn yr ymryson rhyngddo â Mr. Whitefield, yn amlwg wedi ei fwriadu yn ateb i gwyn a ddygid gan Mr. Harris yn ei erbyn, ei fod yn gwrthod derbyn rhyw wr i'w gymdeithas oblegyd ei fod yn credu Etholedigaeth, efe a ddywed:—"Chwi a welwch, fy mrawd, mai y rheswm paham na dderbyniwyd Mr. Acourt i'n cymdeithas ni oedd, nid ei fod yn dal Etholedigaeth ar wahan oddiwrth Wrthodedigaeth, ond ei fod yn tystio yn gyhoeddus ei fwriad penderfynol i ddwyn i mewn, a chario yn mlaen y ddadl ynnghylch Gwrthodedigaeth, i ba le bynag y deuai." Mae ganddo lythyr arall ato dyddiedig Awst 6, 1742, yn yr hwn y cyfeiria at lythyr a dderbyniasai oddiwrth Mr. Harris, dyddiedig Trevecca, Hydref 19, 1741, ychydig ddyddiau, fel y gwelir, ar ol yr amser y cyfarfuasant ac y buant yn dadleu â'u gilydd, fel yr adroddir yn y rhan o Journal Mr. Wesley a roddwyd genym i mewn eisoes. Yn y llythyr hwn fe ddywed Mr. Wesley:—"A pha beth yr ydym yn dadleu yn ei gylch? Cydnabyddwch y fath berffeithrwydd ag a ddysgrifir genych chwi yno, ac nis gallaf gyfrif pob dadleu ychwanegol ond clebar ofer ac ymryson gwag yn unig yn nghylch geiriau. Am y pwnc arall, yr ydym yn cytuno, 1. Nad oes gan un dyn unrhyw allu ond a rodder iddo oddiuchod. 2. Nas gall un dyn haeddu dim ond uffern, yn gymmaint a bod pob haeddiant arall yn ngwaed yr Oen. Dros y ddau bwnc sylfaenol hyn, yr ydych chwi a minnau yn dadleu yn wresog. Paham gan hyny, os ydym ein dau yn ymwrthod â phob gallu ac â phob haeddiant mewn dyn, pa raid sicrhau y gagendor mawr hwn rhyngom a'n gilydd?".; (Wesley's Works, Vol. XIII. page 159). Ac y mae yn ymddangos i Mr. Wesley, wedi dechreu yr ymryson mawr a gymmerodd le rhyngddo a Lady Huntington ac ereill a bleidient yr athrawiaeth Galvinaidd, mewn canlyniad i gyhoeddiad y cofnodau Arminaidd—nodedig felly-o'r hyn y penderfynasid arnynt yn y Gynnadledd yn 1770, a phan oedd Mr. Benson wedi ei droi ymaith o fod yn Athraw a Mr. Fletcher wedi rhoddi i fynu fod yn Llywydd yn Athrofa yr Arglwyddes, yn Nhrefecca, oblegyd pleidio Mr. Wesley,-wedi hyn oll, y mae yn ymddangos iddo