Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/273

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gael ei wahodd gan Mr. Howel Harris i bregethu yn Nhrefecca. Dyma ddywed ef ei hunan yn ei Journal: "Dydd Gwener, Awst 14, 1772. Tua hanner dydd, ar ddymuniad fy hen gyfaill Howell Harris, mi a bregethais yn Nhrefecca, ar y Porth cyfyng; ac ni a gawsom ein calonau yn ymgylymu yn nghyd fel yn y dechreuad. Efe a ddywedodd, Yr ydwyf wedi goddef gyda'r gwyr ieuainc siaradus, anwybodus yna, sydd yn cael eu galw yn fyfyrwyr, hyd nas gallaf o gydwybod ddioddef yn hwy. Y maent yn pregethu Gwrthodedigaeth noeth ac Antinomiaeth mor ddiorchudd, fel y gorfodwyd fi i'w gwrthwynebu yn eu gwyneb, hyd yn nod yn y gynnulleidfa gyhoeddus.' "Nid yw," meddai Mr. Wesley, "yn un rhyfeddod eu bod yn pregethu felly. Pa beth well ellir ddysgwyl oddiwrth fechgyn ieuaine heb ond ychydig synwyr, ychydig ddysg, a dim profiad?" (Wesley's Works, Vol. III. page 478). Dyma y cyfeiriad diweddaf at Mr. Harris a geir yn Journal Mr. Wesley, ac yr oedd hyn mewn llai na blwyddyn i'w farwolaeth ef; oblegyd efe a fu farw, Gorphenaf 28, 1773. Y mae yn anmhosibl, os rhoddir dim ymddiried yn nhystiolaethau Mr. Wesley, peidio cydnabod nad Calviniad nodedig o gymmedrol oedd Mr. Harris, tra, ar yr un pryd, y mae yn amlwg mai Calviniad trwyadl ydoedd. Nid oes dim lle i unrhyw amheuaeth yn nghylch Calviniaeth Mr. Rowlands, Llangeitho, Mr. Howell Davies, Mr. William. Williams, Pant-y-celyn, Mr. Peter Williams, a'r gweddill o'r tadau Methodistaidd. Yr oeddent yn cytuno yn gwbl yn eu hathrawiaeth â'u brodyr efengylaidd yn mhlith yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, heb un gwahaniaeth, oddieithr eu bod, fe allai, ychydig yn fwy cymmedrol na hwynt, ac yn llai caeth, yn eu gweinidogaeth, i unrhyw gyfundraeth, gan gyflwyno yr efengyl yn fwy rhydd ac agored ger bron y byd yn gyffredinol. Fel, erbyn cymmeryd pob peth at eu gilydd, nad ydym yn gallu gweled fod un lle têg i ammeu, nad cynnyrch yr efengyl, yn yr hyn a ellir olygu yn wedd Galvinaidd arni, oedd braidd yr holl grefydd ysbrydol oedd ac a fuasai yn Nghymru, o ddechreuad y Diwygiad Protestanaidd, hyd ddechreuad y ganrif bresennol.

Yn ystod y ganrif ddiweddaf, nid oedd gweinidogion yr eglwys sefydledig, o leiaf yn Ngogledd Cymru, fel y mae yn resynus meddwl, yn talu ond ychydig iawn o sylw i unrhyw athrawiaeth; ac, hyd ag y gallwn ni gasglu, yr oedd yr ychydig oeddent yn cymmeryd rhyw sylw yn cofleidio syniadau Morganaidd braidd—Arminiaeth, o