Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/274

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

leiaf, yn ei gwedd gulaf ac iselaf-heb odid un o'r elfenau hyny ynddi sydd yn hynodi yr efengyl megis trefniant gras. Yr oedd rhai eithriadau, y mae yn wir, megys Mr. John Morgan, oedd yn gurad yn Llanberis, ac ereill. Ond yr oedd y corph o honynt heb feddwl braidd ddim am, na phryderu dim yn nghylch, "egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw." Yr oedd rhai o'r offeiriaid hyn, weithiau, yn defnyddio y Wasg er ceisio amddiffyn yr eglwys, ac yn enwedig i ymosod yn erbyn y rhai oeddent yn ymwahanu oddiwrthi, ac yn neillduol, yn y Gogledd, i ymosod yn erbyn y Methodistiaid. Cyhoeddwyd traethodyn felly, a dynodd fwy o sylw na'r cyffredin, yn y flwyddyn 1792, a elwid,—"Undeb Crefyddol, neu Rybudd yn erbyn Schism. Yn dangos ei Anghyfreithlondeb wrth reswm a'r Ysgrythyr, a barn yr hen dadau yn y brif Eglwys. Gan Weinidog Eglwys Loegr. Gwrecsam, argraffwyd gan T. Marsh." Fe ymgymmerodd Mr. Thomas Jones (Dinbych ar ol hyny), âg ysgrifenu Atebiad i'r llyfr hwn, yr hwn a gyhoeddwyd, y flwyddyn ganlynol, dan yr enw, "Sylwiadau ar Draethawd a elwir Undeb Crefyddol, neu Rybudd yn erbyn Schism, &c.," mewn ffordd o Lythyr at yr Awdwr o hono: yn dangos ddarfod iddo, yn y Traethawd hwnw, gondemnio amryw Bynciau o Athrawiaeth, a amddiffynir gan y Bibl, a chan Erthyglau a Homiliau Eglwys Loegr; yn mha un y mae efe yn proffesu bod yn Weinidog. Yn nghyd a phrawf o'i Gam-Farn ar y bobl a elwir Methodistiaid, &c. Llundain: Argraphwyd gan Vaughan Griffiths, 1793." Y mae Mr. Jones yn dyddio ei lythyr at y darllenydd, "Penuchaf, gerllaw Caerwys, Gorphenaf 12fed, 1793." Dyma ymddangosiad cyntaf Mr. Jones trwy y wasg fel amddiffynydd i'r athrawiaeth Galvinaidd: ac y mae yr un nodwedd hanesyddol, yr un tegwch dadleuol, a'r un ymostyngiad i awdurdod y dadguddiad Dwyfol, gyda'r gallu, mewn dull tawel, i roddi brathiad angeuol i'w wrthwynebwr, ag sydd i'w canfod mor amlwg yn yr ysgrifeniadau a gyhoeddwyd ganddo mewn blynyddoedd diweddarach, yn hynodi, mewn modd arbenig, y cyfansoddiad cyntaf' hwn o'i eiddo, ar y ddadl rhwng Calviniaid ac Arminiaid. Ni ddygwyddodd i ni erioed weled y llyfr y gwnaed y "Sylwiadau" hyn arno: ond y mae Mr. Jones yn rhag-hysbysu i ni, "fod y rhan fwyaf pwysfawr o hono, sy'n perthyn i athrawiaeth, wedi ei roi i lawr, air yngair, yn nechreu" ei lyfr ef. Yn ol Mr. Jones, " yr oedd y gwaith mor ddielwig a disylwedd, a'i wraidd, anwybodaeth a rhagfarn, mor