amlwg, fel y meddyliodd llawer mai trafferth afreidiol oedd ei atteb." Yr oedd yntau, ar y cyntaf, braidd yn cytuno â'r cyfryw; ond, wedi deall fod" amryw eglwyswyr yn taenu'r rhybuddiwr anonest ac anghywrain ar hyd eu plwyfydd, gydâ mwy o ddiwydrwydd a zel nag a arferasant erioed i daenu'r Bibl, nac un llyfr da arall; . . . ac ystyried fod llawer yn Nghymru mor fyr eu deall a'u harchwaeth ysbrydol, fel y gall y llysieuyn mwyaf drygsawrus a ddel o ardd Eglwyswyr, gael ei lyngcu ganddynt, trwy anwybodaeth, er eu mawr niwed; ac wrth feddwl hefyd, fod ar y wlad yn gyffredin fawr eisiau addysg, ynghylch egwyddorion crefydd; . . . . a chan wybod hefyd y gall Duw ddefnyddio gwreichion dadl i oleuo peth ar ardaloedd tywyll a difraw;" wrth ystyried y pethau hyn, fe ymgymmerodd, er y teimlad o'i wendid a'i annghymmwysder, â'r gorchwyl o ysgrifenu a chyhoeddi y "Sylwadau" hyn arno. Ac y mae, mewn gwirionedd, yn llyfr tra rhagorol. Er cyfarfod gwrthddadleuon "Gweinidog o Eglwys Loegr," yn erbyn y syniadau Calvinaidd, y mae yn anhawdd cael dim, o'i faint, mwy cyfaddas; ac y mae y profion ysgrythyrol a ddygir yn mlaen ganddo dros ei olygiadau, a'i ymresymiadau arnynt, yn gyfryw, dybygem ni, ag y byddai yn anhawdd i un darllenydd diragfarn beidio teimlo eu bod yn teilyngu ei sylw, os nad ar unwaith eu cymmeradwyo. Nid ydyw yr holl draethawd ond 84 o dudalenau, ac felly nis gallai yr awdwr fyned i mewn i bob pwnc a berthynai i'r ddadl, nac ymhelaethu llawer ar yr un o honynt; ac nid yw mewn un modd yn cyfeirio at ddim gwahaniaeth rhwng Calviniaid a'u gilydd ynnghylch yr Iawn a'r Prynedigaeth: ond gyda golwg ar y pynciau sydd ganddo dan sylw, y mae yn llefaru yn gwbl eglur a ddiammwys, ac eto yn hollol gymmedrol; ac yn rhoddi i ni, y mae yn ddiddadl, olygiad têg a chywir ar y syniadau a goleddid yn gyffredin arnynt gan yr hen dadau Methodistaidd. Yr ydym ni wedi methu cael allan i'r "Gweinidog o Eglwys Loegr" gynnyg unrhyw fath o Atebiad i'r "Sylwadau " hyn. Y tebygolrwydd ydyw iddo deimlo, ar unwaith, ei fod wedi cyfarfod âg un y byddai yn ddoethach iddo ei osgoi na meddwl ymladd dim yn ei erbyn. Dyma yr unig ddadl, adnabyddus i ni, o fewn Gogledd Cymru, yn y ddeunawfed ganrif, ar y pynciau hyn.
Erbyn hyn, yr oedd yr erlid a fuasai ar y Methodistiaid gynt wedi darfod agos yn hollol; yr oedd nifer mawr, yn mhob Sir, o addoldai wedi eu hadeiladu a'u cofrestru yn rheolaidd yn ol y gyfraith; yr oedd