Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/276

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfarfodydd Misol a Chymdeithasfaoedd Chwarterol yn cael eu cynnal yn gyson; yr oedd amryw bregethwyr wedi codi, a rhai o honynt o'r doniau uchaf a dysgleiriaf a welodd Cymru erioed, ac yn ymroddi â'u holl egni i'r gwaith mawr; yr oedd Ysgolion Sabbothol wedi eu sefydlu mewn cysylltiad â nifer mawr os nad a'r nifer mwyaf o'r cynnulleidfaoedd, ac ymdrech annghyffredin yn cael ei wneuthur gyda'r ieuenctyd ac ereill ynddynt; ac yr oedd rhifedi yr aelodau eglwysig, trwy y Siroedd, yn y Gogledd yn unig, yn filoedd lawer. Yr oedd y gwaith da yn ymddangos yn myned rhagddo yn dra llwyddiannus; pawb yn unfryd yn cydymdrech gyda ffydd yr efengyl;" ysbryd y Duw byw yn gweithio yn rymus trwy y weinidogaeth, a lluoedd yn cael eu hachub; cyd-olygiad hollol ar athrawiaethau gras rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr; ac heb un elfen o annghysur yn mhlith y Methodistiaid eu hunain, oddieithr yn unig yr hyn a fu am dymhor yn achos y Parch. Peter Williams, ac nid oedd hyny yn effeithio cymmaint ar y Gogledd, ac yr oedd erbyn hyn, wedi myned drosodd yn y Deheudir; yr oedd y wedd oedd ar grefydd, yn y wlad yn gyffredin, yn gyfryw ag i gymhell ei charedigion "i ddiolch i Dduw ac i gymmeryd cysur." Clywsom. amryw o'r hen bobl yn dywedyd fod golwg ogoneddus ar yr achos, er nad ydoedd yn fawr iawn, yn ystod yr ugain mlynedd, ac, yn enwedig yn ystod y deng mlynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf.

Ond tua dechreuad y ganrif bresennol, fe dorwyd i raddau mawr ar y tangnefedd oedd yn ffynu rhwng Cristionogion efengylaidd a'u gilydd, ac fe ddaeth cryn gyfnewidiad ar ysbryd a gwedd yr achos yn gyffredinol yn ein gwlad. Yr achlysur o hyny fu dyfodiad ein brodyr y Wesleyaid i Gymru. Nid oeddent, cyn hyny, wedi gwneyd un ymdrech i ymsefydlu yn y parthau Cymreig o'r Dywysogaeth. Yr oedd Mr. Wesley ei hunan wedi ymweled amrywiol weithiau â Deheudir Cymru, ac wedi pregethu yno gyda nerth a llwyddiant mawr ac yr oedd rhai cymdeithasau bychain, mewn cysylltiad âg ef, wedi eu ffurfio yno, hyny yw, yn y rhanau Seisnig o Sir Forganwg a Sir Benfro, ddeng mlynedd ar hugain neu ddeugain mlynedd cyn hyn. Yr oedd y pregethwyr Wesleyaidd a berthynent i Gylchdaith Caerlleon wedi sefydlu cymdeithas fechan hefyd yn Ngwrexham, ac yn cynnal pregethu cyson yn y dref. Ond yr oedd hyn oll yn y Saesonaeg: ac nid oedd neb eto, hyd ag yr ydym ni yn deall, yn Nghyfundeb Mr. Wesley, wedi cynnyg