Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/277

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pregethu yn yr iaith Gymraeg, oddieithr y byddai un Richard Harrison, pregethwr lleol oedd yn byw yn Llaneurgain, yn Sir Flint, yn achlysurol yn gwneyd hyny. Yr oedd Mr. Wesley ei hunan wedi bod amryw weithiau yn Ngogledd Cymru, ar ei ffordd i'r Iwerddon, ac wedi pregethu yn fynych yn Nghaergybi, a rhai lleoedd ereill yn Sir Fôn. Yr ydym yn ei gael, yn ol ei "Journal," ddydd Mercher, Awst 5, 1747, yn codi yn foreu, ac yn gadael Llanfair Muallt, gan farchogaeth dros "fynyddoedd geirwon " Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn, nes cyrhaedd Sir Feirionydd; a rhwng tri a phedwar yn y prydnawn, Awst 6, yn cyrhaedd Caernarvon, yn croesi "Baldon Ferry" (Moel y Dòn), ac yn cysgu y noswaith hono mewn gwesty bychan ar lan y Menai. Drannoeth, Awst 7, y mae yn aros am ychydig amser yn Llangevenye (Llangefni) saith milltir oddiwrth y lle y croesasai i'r ynys, ac oddiyno rhagddo i Gaergybi, a'r boreu drannoeth yn croesi drosodd i'r Iwerddon. Yn mhen tua thair wythnos yr oedd yn dychwelyd o'r Iwerddon yr un ffordd drachefn, ac yn cyrhaedd Llanfair Muallt, Awst 29. Nid ym. ddengys iddo bregethu unwaith yn y Gogledd, wrth fyned na dychwelyd y pryd hyn. Yn mis Chwefror, y flwyddyn ganlynol, aeth drachefn yr un ffordd i'r Iwerddon. Pregethodd y pryd hyny yn y farchnadfa yn Llanidloes, am hanner dydd, Chwefror 22, 1748. Cyrhaeddodd i Fachynlleth y noswaith hono. Drannoeth, ddydd Mawrth, er fod eira mawr dros y ddaear, cyrhaeddodd Tannabull (Tan-y-bwlch), ac i Gaernarfon y noswaith hono. Cyrhaeddodd Gaergybi nos Fercher. Ond yn gymmaint a bod y gwynt yn groes, fel nas gallent fyned drosodd i Dublin, fe'i cadwyd yn Nghaergybi hyd nos Lun, Mawrth 7. Pregethodd y pryd hyn amrywiol weithiau yn Nghaergybi, ac mewn manau ereill yn Sir Fôn. Cyfarfu y pryd hwn, yn yr ynys â Mr. Williams, o'r Deheudir, a bu yn cyd-bregethu âg ef ddwywaith. Nid ydym yn sicr pa un ai Mr. Peter Williams ai Mr. William Williams, Pant-y-celyn, oedd hwn. Yn y Mai canlynol, dychwelodd yr un ffordd o'r Iwerddon, ond heb bregethu unwaith nes cyrhaedd y Deheudir. Yn y flwyddyn ganlynol, 1749, aeth drachefu i'r Iwerddon. Pregethodd am unarddeg ar y gloch boreu Llun, Ebrill 10, yn y farchnadfa yn Llanidloes. Llettyodd y noswaith hono yn Dynasmouthy (Dinas Mawddu). Drannoeth, cyrhaeddodd Dal-y-gelle (Dolgelleu) mewn llai na theirawr; Tannabull (Tan-y-bwlch) cyn hanner dydd; a Chaernarfon yn yr hwyr. Dydd Mercher cyrhaeddodd