Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/278

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gaergybi. Pregethodd yno ddwywaith y pryd hyn tra yn dysgwyl gwynt têg i groesi drosodd. Yn y flwyddyn ganlynol, 1750, yr ydym yn ei gael yn cyrhaedd Baldon Ferry (Moel Dòn) ddydd Sadwrn, Mawrth 24, ar fedr croesi drosodd i Sir Fôn. Tra yno, yn dysgwyl am fyned drosodd, y mae yn taro ar Mr. Jenkin Morgan, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog i'r eglwys Annibynol yn Rhos-y-meirch, ac yn nhŷ yr hwn yr oedd wedi bod yn llettya dair blynedd cyn hyny. Llettyodd y nos Sadwrn hwn eto yn ei dŷ ef. Y Sabbath canlynol fe bregethodd y boreu yn nhŷ un Howell Thomas, yn Nhrefollwyn. Yn y prydnawn aeth i bregethu drachefn i dŷ William Pritchard (Clwchdernog dybygid), lle y cafodd y gynnulleidfa fwyaf a welsai erioed yn Sir Fôn, a lle y cafodd oedfa ogoneddus." Pregethodd yn Nghaergybi y nos Fercher canlynol, i gynnulleidfa fawr, yn ymddangos yn ewyllysgar i wrandaw. Y noson hono, gan fod y gwynt wedi dyfod yn deg, cychwynodd am yr Iwerddon. Ond troes y gwynt, a daeth yn dymhestl gref, fel, ar ol cyrhaedd o fewn deuddeg neu bymtheg milltir i'r Iwerddon, y curwyd y llong yn ei hôl i Gaergybi. Parhäodd y gwynt yn groes, hyd ddydd Sadwrn, Ebrill 7, pryd yr aeth drosodd i Dublin. Yn y cyfamser, pregethodd amryw weithiau yn Nghaergybi; ac yn nhŷ William Pritchard drachefn, yn agos i Lanerellymadd (Llanerchymedd); drachefn mewn dwy filltir i Lanerchymedd; ac amcanodd bregethu yn Llanerchymedd, ond fe'i rhwystrwyd yno gan " feibion Belial." Bu yn Nghaergybi, ar ei ffordd i'r Iwerddon, amrywiol weithiau ar ol hyn; ond nid ydym yn deall iddo bregethu na cheisio pregethu, yno, nac yn un lle arall yn Ngogledd Cymru, byth wedi hyny. Ac y mae yn ddiddadl nad oedd ein brodyr y Wesleyaid wedi cael un afael ar y parthau Cymreig o'n gwlad, yn y Deheudir na'r Gogledd, cyn diwedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd ambell un yma a thraw i'w gael mewn cysylltiad eglwysig â'r Methodistiaid a ennillasid at grefydd yn Lloegr trwy weinidogaeth y Wesleyaid, ac erbyn dyfod yn ol i Gymru yn ymuno â'r rhai tebycaf, dybient hwy, mewn teimlad i'w cyfeillion eu hunain yn Lloegr ac yr oedd amryw o ieuengetyd Cymru, yn mhrif drefi Lloegr, yn aelodau yn nghymdeithasau y Wesleyaid. A thrwy un o'r cyfryw y dechreuwyd achos Cymreig ganddynt yn y Dywysogaeth. Y gwr hwnw oedd yr un a adnabyddid wedi hyny, ac eto, wrth yr enw Jones, Bathafarn.

Ganwyd Mr. Edward Jones yn Mhalas Bathafarn, yn agos i Ruthin,