Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/279

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1777. Cafodd ei ddwyn i fynu yn Ysgol Rammadegol Rhuthin. Nid ymddengys ei fod wedi gwneyd cynnydd mawr mewn dysgeidiaeth yno. Yr oedd, pa fodd bynnag, yn ŵr ieuanc dichlynaidd ei ymarweddiad, a hynod o addfwyn a thawel ac ar yr un pryd siriol, o ran ei dymherau, fel ag i beri i bawb y deuai i gyfarfyddiad â hwynt fod yn hoff iawn o hono. Anfonwyd ef, pan oedd tua dwy-ar-bymtheg oed, i Manchester, i ryw Warehouse yno, gan nad oedd ganddo un tuedd at fod yn amaethwr. Yr oedd y pryd hyny yn hollol ddigrefydd, ond yn arfer cyrchu yn gyson i'r gwasanaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Ryw sut, ni chlywsom pa fodd, fe'i harweiniwyd un Sabbath i wrandaw i Gapel y Wesleyaid, yn Oldham Street, yn Manchester. Mr. George Marsden oedd y pregethwr y pryd hyny. Fe gydiodd y gwirionedd yn meddwl Edward Jones ac fe'i gwnaed yn ddyn newydd. Ymunodd â'r gymdeithas eglwysig a berthynai i'r Capel, a dechreuodd ar unwaith ymgymmeryd â'r hyn a allai o wasanaeth crefydd yn y lle. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1796. Yn mhen ychydig amser dechreuodd waelu yn fawr o ran ei iechyd ac ofnid y syrthiai i'r Darfodedigaeth. Effeithiodd y gwaeledd i beri iddo fod yn fwy ymroddedig i grefydd yn bersonol, ac yn fwy ymdrechgar gyda'i dyledswyddau yn gymdeithasol. Gan deimlo ei hunan yn parhau yn anmharus, ac yn ofni nad oedd y lle yn cytuno yn dda âg ef, fe benderfynodd ddychwelyd i'w gartref, er mwyn cael gweled yr effaith a gâi awyr ei wlad enedigol, ynnghyd âg ychydig seibiant oddiwrth orchwylion ei sefyllfa, arno tuag at ei wellhau. Yr oedd hyn yn niwedd 1799. Effeithiodd y cyfnewidiad, yn fuan iawn, er gwellad ar ei iechyd. Daeth, yn mhen ychydig amser, i deimlo can iached a chan gryfed ag erioed. Ond yr oedd yn teimlo yn hynod o hiraethus am gymdeithas ei gyfeillion crefyddol ac yr oedd yr olwg ddigrefydd oedd yn gael ar ei gyd—wladwyr a'i hen gymmydogion yn peri gofid mawr i'w feddwl. Gan deimlo felly, fe ysgrifenodd at Mr. George Morley, un o'r Pregethwyr a berthynent i Gylchdaith Caerlleon, i ofyn iddo a ddeuai efe i Ruthin i bregethu. Addawodd yntau fyned. Yn nechreu Ionawr, 1800, fe gymmerodd Mr. Edward Jones ystafell yn Rhuthin yn yr hon y gellid pregethu a chynnal cyfarfodydd crefyddol ereill. Aeth Mr. Morley yno, yn ol ei addewid, a chafodd gynnulleidfa dda i wrandaw arno. Trefnwyd fod i ryw bregethwr o Gaerlleon fyned yno bob yn ail Sabbath. Pan na cheid pregethwr felly arferai Mr. Edward