Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cynwal yn fardd enwog: ac y mae yn hysbys fod Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd a chyfieithydd galluog y Salmau ar gân i'r iaith Gymraeg, ac yntau, wedi bod mewn dadl frwd â'u gilydd yn nghylch awen. Fe ddywedir i un o Gywyddau yr Archddiacon effeithio cymaint ar feddwl Gwilym Cynwal ag i niweidio ei iechyd a therfynu yn angau iddo.

Mae cyfnewidiadau mawrion yn Nghymru er dyddiau Angharad, mewn prisiau tiroedd yn gystal ag mewn pethau ereill. Yr oedd ngharad yn dal Cwmpenamman oll. Ryw bryd, fe godwyd ei hardreth i ddwy bunt y flwyddyn. Cychwynodd hithau i Wydir i roddi lle i fynu, am ei bod yn gweled yr ardreth yn ormod, er ei bod yn adw ar y tir driugain o fuchod godro. Ond troes yn ei hol, a dywedodd y rhoddai ddwy bunt, bid a fo, dros un flwyddyn am ei llechweddau gleision. Rhaid cofio, pa fodd bynnag, fod punt y pryd hwnw yn werth mwy nag amryw bunnoedd yn awr. Fe'n hesgusodir am aros cyhyd gydag Angharad, gan fod gwrthddrych ein Cofiant, fel y sylwasom, yn disgyn yn uniongyrchol oddiwrthi hi ar du ei dad a'i fam, a'i bod hithau yn wraig mor hynod, ac o feddwl mor nerthol a choeth, ag i dueddu un braidd i ddychymygu mai trwy eu perthynas â hi yr eneiniwyd ef, a lliaws ereill o'i disgynyddion, â'r athrylith rymus a dysglaer ag y mae Cymru drwyddi wedi teimlo ac yn parhau i deimlo oddiwrthi.

Nid oes genym ddim neillduol o hanes ei daid o du ei fam, sef, Richard Owen, Bertheos, heblaw ei fod yn cael ei ystyried yn ei gymmydogaeth yn ddyn call iawn, yn un hynod o hynaws a charedig ei dymher, a dichlynaidd hollol o ran ei ymarweddiad; ac er na wnaeth erioed broffes gyhoeddus o grefydd, eto byddai yn arfer, yn enwedig yn mlynyddoedd olaf ei oes, gweddio cymaint wrtho ei hun ac mewn leoedd dirgel, ag i adael argraff ddofn ar feddyliau ei holl blant ei fod yn ofni yr Arglwydd mewn gwirionedd.

Yr oedd ei briod, Margaret, nain y Parch. John Jones, yn cael ei chydnabod yn gyffredinol fel gwraig nodedig o synwyrol, yn rhagori felly braidd ar bawb yn y plwyf, ac yn un yr oedd ei holl galon yn gysegredig i grefydd. Nid oedd un amheuaeth yn meddwl neb a'i hadwaenai hi yn nghylch ei duwioldeb. Yr oedd nid yn unig yn dduwiol ond yn dduwiol iawn. Yr oedd yn nodedig o ymdrechgar i ddwyn ei phlant i fynu yn grefyddol, a bendithiwyd ei llafur hyd at