Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/280

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones ei hunan gadw cyfarfod gweddio a rhoddi gair byr o gyfarchiad, yn yr ystafell. Ond yr oedd hyn oll yn yr iaith Saesoneg, ac felly, mewn cymhariaeth, dan angenrheidrwydd o fod yn anfuddiol i gorph poblogaeth y dref a'r gymmydogaeth. O'r diwedd, fe anturiodd weddïo a cheisio cyfarch y bobl yn y Gymraeg; ac fe lwyddodd yn llawer gwell nag yr oedd wedi dysgwyl. Yn raddol, fe ddechreuodd gymmeryd testyn a phregethu yn rheolaidd yn y Gymraeg. Yn mis Mai, y flwyddyn hono, fe anfonwyd Mr. John Bryan,—gŵr o ran ei enedigaeth o Lanfyllin, ond yn aros y pryd hyny yn Nghaerlleon, ac wedi ymuno â chymdeithas y Wesleyaid, ac wedi dechreu pregethu yn gynnorthwyol gydâ hwynt,—drosodd i Ruthin, yr hwn a bregethodd, nid fel y pregethwyr ereill a ddeuent o Gaerlleon yn y Saesonaeg, ond yn y Gymraeg. O hyny allan trefnwyd fod i Mr. Bryan ddyfod yn gyson, bob yn ail Sabbath, o Gaerlieon i Gymru, ac i Mr. Edward Jones gymmeryd y Sabbath arall, ac i'r gwasanaeth fod yn benaf, os nad yn gwbl, yn y Gymraeg. Dechreuasant bregethu hefyd yn Ninbych, ac yr oedd eu llafur yn hytrach yn fwy llwyddiannus yno nag yn Rhuthin. Derbyniwyd Mr. Bryan yn gyflawn i'r weinidogaeth deithiol, yn y flwyddyn 1801, a Mr. Edward Jones yn y flwyddyn ganlynol; ac y mae yn ddiammheuol iddynt fod o wasanaeth dirfawr i achos y Wesleyaid yn Nghymru. Ni a adwaenem Mr. Bryan yn dda, yn ei flynyddoedd diweddaf. Yr oedd yn ŵr o dymherau naturiol siriol a bywiog; o ddoniau ymadroddi parod a rhwydd; o ymroddiad tra phenderfynol i ba orchwyl bynnag a gymmerid ganddo mewn llaw; ac, er nad oedd ei gorph ond bychan, yr oedd y fath iechyd a nerth yn perthyn iddo, fel y gallai ddal allan dan lafur maith a chaled heb deimlo ond ychydig neu ddim oddiwrtho. Ond yr oedd yn hynod o fyrbwyll ac anochelgar ac anwyliadwrus; ac yn fynych yn dywedyd pethau nas gallent mewn un modd dueddu i wneyd daioni i'r achos oedd, yn ddiammeu, mor agos at ei galon; a phethau y byddai ei gyfeillion goreu a challaf yn cael eu blino yn fawr o'u herwydd. Byddai, weithiau, yn y rhwyddineb gallu i siarad a berthynai iddo, yn gollwng allan ffrwd o eiriau, a ymddangosent mewn rhyw gysylltiadau, yn dra digrifol. Ni a glywsom un yn dywedyd mai un o'r pethau mwyaf effeithiol felly, a glywodd ef braidd erioed, oedd ei waith yn cyhoeddi y diweddar Thomas Rees Davies, yr hwn oedd y pryd hyny newydd adael y Bedyddwyr ac wedi ymuno â'r Wesleyaid, i bregethu