Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/281

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Mangor, ryw Sabbath yn ganlynol iddo ef fod yno: —"Y mae Thomas Rees Davies, a fu gynt gyda'r Bedyddwyr, ond sydd wedi cael agoryd ei lygaid, a'i droi o dywyllwch i oleuni, ac yn awr gydâ ni, i fod yma yn pregethu y Sabbath nesaf." Yr ydym ein hunain yn cofio yn dda ei glywed mewn Cyfarfod Taleithiol yn Mangor, yn gweddio yn niwedd un o'r Cyfarfodydd Cyhoeddus—y Cyfarfod Cenhadol—yr hwn a gynhelid yn ein Capel ni, ac wedi myned i'r hwyl fawr yn gwaeddi," A diolch am gynnydd cariad brawdol yn ein gwlad, ac am le i obeithio fod rhagfarn wedi marw, ac y caiff ei hen ysgerbwd ei gladdu fel na chyfyd mwy. Dyma ni wedi cael benthyg capel braf ein brodyr y Calvinistiaid i gynnal ein cyfarfodydd. Yn wir y mae hyn yn destyn diolch. Y mae rhai o honom ni wedi ei gweled hi fel arall. Ond, yrwan, yn lle ein melldithio, a cheiso ein halltudio ni allan o'r wlad, a dywedyd pob drygair am danom, a'n galw ni yn bob enw gwaeth na'u gilydd y gallent hwy feddwl am dano, dyma nhw wedi rhoi benthyg eu Capel i ni, ac yn ymddangos wrth eu bodd yn mwynhau ein cyfarfodydd ni ynddo." Ond yr oedd hyn oll yn cael ei ollwng allan ganddo yn gwbl ddifeddwl; fel pe buasai heb ystyried pa eiriau a ddefnyddiai; ac heb un teimlad drwg, yr ydym yn credu, o un math ganddo at y rhai yr oedd yn edliw felly, ar adeg mor gysegredig, ac mewn lle mor hynod, eu hen bechodau iddynt. Yr oedd rhai o'n cyfeillion yn teimlo yn lled ddwys; yr oedd ei frodyr ef ei hunan yn ei gondemnio yn fawr; ond yr oeddem ni, a llawer gyda ni, yn ei fwynhau fel peth mwy digrifol na dim arall. Dygwyddodd tro tra thrwstan iddo un nos Sabbath, yn ein Capel ni yn Jewin Crescent, Llundain. Yr oedd y Wesleyaid Cymreig yn arfer ymgynnull y pryd hyny yn un o'r capeli cyfagos, nid ydym yn sicr pa un ai yn Jewin Street ai yn Aldersgate Street, ac yr oedd ei gyhoeddiad ef i fod yno gyda hwynt y noson hono. Mr. James Hughes oedd i bregethu yn y Crescent. Yr oedd efe wedi myned trwy ranau arweiniol y gwasanaeth, ac ar ddechreu, os nad wedi dechreu pregethu, pan daeth Mr. Bryan i mewn, ac, heb droi ar ddehau nac aswy, i fynu ag ef ar ei union i'r pulpud. Tybiodd Mr. James Hughes mai rhyw ŵr dieithr o'i frodyr ei hunan ydoedd, a bod y blaenoriaid wedi ei anfon i fynu i bregethu gydag ef, os nad yn ei le, ac felly fe giliodd ar unwaith o'r ffordd ac a roddes ei le iddo. Yn y fan, dyna Mr. Bryan ar ei draed, ac yn dechreu pregethu, ac mewn hwyl yn traethu rhyw