Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/282

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

syniadau dieithr i'r gynnulleidfa. Ond fe welodd yn fuan nad oedd y bobl mewn un modd yn cydymdeimlo â'r pethau. Yr oedd rhai â'u penau i lawr; rhai yn ysgwyd eu penau; amryw ar eu traed; lliaws yn siarad â'u gilydd; pawb yn anesmwyth ac yn edrych yn syn a siomedig;—a'r bregeth yn amlwg yn methu gweithio ei ffordd i gael dim gwrandawiad gan, heb son am awdurdod ar, y rhai a annerchid ganddo. Yn mhen ychydig, fe waeddodd, "Beth sydd arnoch chwi, bobl? Beth ydyw rhyw drefn fel hyn sydd arnoch chwi yn gwrando yr efengyl?" "Nid ydym ni," meddai un o'r dyrfa,—brawd sydd eto yn fyw, ac yn awr yn weinidog yn y Deheudir,—" Nid ydym ni wedi arfer clywed athrawiaeth fel hona o'r pulpud yna." "Beth," meddai yntau, "ai nid yn nghapel y Wesleyaid yr ydwyf fi?" "Nage," meddai un arall o'r dyrfa, brawd yntau sydd eto yn fyw, ac yn awr yn flaenor cyfrifol yn y Gogledd,—" Nage, Mr. Bryan, yn nghapel y Methodistiaid Calvinaidd yr ydych: a chwi wyddoch chwithau hyny o'r goren." "Bobl anwyl! na wyddwn i," meddai yntau: ac, heb ddywedyd un gair yn mhellach, i lawr ag ef yn chwimwth fel saeth o'r pulpud, ac allan o'r Capel, yn gyflymach nag y daethai i mewn, gan frysio am y capel arall. Y mae darn arall i'r chwedl, nas gallwn ni sicrhau yn gwbl ei wirionedd, er ei fod yn hollol debyg i'r hyn a ddysgwyliasid oddiwrtho ef, dan y fath amgylchiadau. Fe ddywedir iddo, can gynted ag y cyrhaeddodd y pulpud yn ei gapel ei hun, waeddi allan," Y mae hi wedi myned yn ddiweddar. Ond peidiwch a'm beio i. Diolchwch drosof. Mi a aethum, mewn camgymeriad, i ffau y llewod,' yn lle i 'gorlan y defaid; ac y mae yn rhyfedd i mi ddianc heb fy lladd a'm llarpio. Diolchwch fy mod i yn fyw." Dyna y fath oedd Mr. Bryan. Y mae lliaws o chwedlau digrifol cyffelyb yn cael eu hadrodd am dano. Mae yn ddigon posibl fod amryw o honynt, fel yn y cyffredin am rai tebyg iddo ef, heb nemawr o sail iddynt: ond yr oedd ei sydynrwydd, a'i anochelgarwch, yn gysylltiedig a'i ffraethineb, yn ei arwain ef i wneyd ac i ddywedyd llaweroedd o bethau, nas gallesid eu dysgwyl braidd byth oddiwrth neb arall. Ond nid oedd dim perygl i Mr. Jones, Bathafarn, yn enwedig, syrthio i'r fath amryfuseddau. Yr oedd efe yn llawer mwy araf a phwyllog a boneddigaidd. Yr oedd hefyd yn llawer mwy afrwydd ei ddawn, ac felly yn rhydd i fesur oddiwrth yr hyn oedd yn brofedigaeth mor fawr i Mr. Bryan. Wedi gwasanaethu yr achos yn ffyddlawn yn Nghymru am yn agos i un mlynedd ar