Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/283

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bymtheg, fe symudwyd Mr. Jones, yn y Gynnadledd a gynnaliwyd yn Manchester, yn 1816, at y Saeson i Loegr; ac yn eu plith hwy y llafuriodd, gyda chryn lawer o gymmeradwyaeth, am y gweddill o`i oes. Bu farw yn Leek, Staffordshire, Awst 26, 1837, yn 60 mlwydd oed. Tra yr oedd Mr. Edward Jones a Mr. John Bryan, mewn cysylltiad a'r pregethwyr a berthynent i Gylchdaith Caerlleon, yn ceisio ymdrechu i sefydlu achos Wesleyaidd yn Nghymru, yn y Gynnadledd flynyddol am 1800, yr hon a gynnhelid yn Llundain, fe ddug Dr. Coke, yr hwn oedd ei hunan yn enedigol o Aberhonddu er nad oedd yn deall ond ychydig o'r iaith Gymraeg, achos Cymru dan sylw: gan adrodd i'r brodyr yr hyn oedd eisoes wedi cael ei ddechreu, a'u cymhell i anfon cenhadon yno er ceisio ëangu yr achos ac efengyleiddio y wlad. Cymmeradwywyd y cynnygiad yn ddioed gan y Gynnadledd; a phennodwyd ar ddau o'r pregethwyr, y rhai oeddent Gymry, ond hyd yn hyn wedi bod yn llafurio yn unig ac yn hollol yn mhlith y Saeson, i ymgymmeryd â'r gorchwyl. Y gwyr hyny oeddent Mr. Owen Davies a Mr. John Hughes; y blaenaf i fod yn Arolygwr cyffredinol ar yr achos, a'r olaf yn gynnorthwywr iddo. Yr oeddent hwy eu dau wedi eu trefnu eisoes i leoedd ereill, Mr. Davies i Redruth, Cornwall, a Mr. Hughes i Leek yn Staffordshire; ond rhoddwyd y trefniadau hyny o'r neilldu; a chan gynted ag y gallasent, cyfarfuasant â'u gilydd yn Ngwrexham, ac ymroisant "o lwyr—fryd calon" i'r gwaith a ymddiriedasid iddynt, ac fe'u llwyddwyd yn fawr ynddo.

Ganesid Mr. Owen Davies yn Ngwrexham, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn frodor o Lanrhaiadr-yn-Mochant, ond erbyn hyn yn trigiannu yn Ngwrexham. Pan oedd Mr. Owen Davies yn ŵr ieuanc, efe a aeth i Lundain, er mwyn yr alwedigaeth oedd ganddo. Wedi bod ryw gymaint o amser yn Llundain, fe symmudodd i Brentford, tref sydd mewn rhyw saith milltir i Lundain. Tra yno fe'i hennillwyd i wrandaw ar y Wesleyaid, ac yn fuan fe ymunodd â'u cymdeithas. Yno hefyd fe'i priodwyd â gwraig weddw, o'r enw Mrs. Hemans, yr hon oedd yn cadw ysgol yn Ealing: un a brofodd yn ymgeledd cymmwys iddo hyd ei angeu, ac a adawyd yn weddw drachefn, ar ei ol yntau. Yn fuan wedi hyny symmudodd i Lundain i breswylio, ac ymroddai yn ffyddlawn i ddilyn yr achos crefyddol yn y Cyfundeb y perthynai iddo. Yn mhen ychydig amser dechreuodd arfer ei ddawn i gynghori, a derbyniwyd ef yn bregethwr lleol rheolaidd. Yn y flwyddyn 1787, fe