Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/284

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anfonwyd Mr. Thomas Olivers ato, oddiwrth Mr. Wesley, i ddymuno arno ymgymmeryd â'r weinidogaeth deithiol fel pregethwr rheolaidd yn y Cyfundeb, ac os ydoedd yn barod i hyny, fod lle yn agored iddo, ar y pryd, yn Nghylchdaith Rhydychain. Yr oedd rhywbeth, pa fodd bynnag, yn ei amgylchiadau, ac, yn neillduol, dybygid, yn nheimladau ei wraig, yn ei attal y pryd hyny rhag cydsynio â'r cais. Erbyn y Gynnadledd, y flwyddyn ganlynol, yr oedd yn barod i fyned; ac fe wnaeth hyny yn hysbys trwy Mr. Moore, oedd ar y pryd yn Arolygwr dan Mr. Wesley. Yn y Gynnadledd, fe'i cynnygiwyd gan Mr. Moore fel ymgeisydd. Ond, yn gymaint a bod nifer digonol wyr ieuaine heb briodi, i lanw yr holl leoedd gweigion, yn eu cynnyg eu hunain y flwyddyn hono, ni dderbyniwyd ei gynygiad ef. Yr oedd Mr. Wesley ei hunan, pa fodd bynag, yn dra awyddus am ei dynu ef i mewn i'r weinidogaeth deithiol: ac, yn mhen ychydig amser ar ol y Gynnadledd, fe anfonodd Dr. Coke ato, i ofyn iddo, a elai efe i Gylchdaith Manchester. Cydsyniodd yntau ar unwaith. Aeth at Mr. Wesley gyda Dr. Coke; ac mewn llai na phythefnos yr oedd gyda'i wraig, wedi cyrhaedd Manchester, ac yn dechreu ar ei lafur. Fel hyn yr arweiniwyd ef i'r weinidogaeth deithiol, pan oedd yn 37 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod felly yn teithio, mewn amrywiol fanau yn Lloegr, am tuag un-mlynedd-ar-ddeg, pan y pennodwyd arno, yn y flwyddyn 1800, i gymmeryd arolygiaeth y Genadaeth yn Ngogledd Cymru. Ymsefydlodd ar y cyntaf yn Rhuthin; wedi hyny, yn Ngwrexham; ac, yn ddiweddaf, yn Ninbych. Ond yr oedd gofal ac arolygiaeth Gogledd Cymru i gyd arno, a theithiai trwy y wlad o Gaergybi i Lanidloes, ac o Dreffynnon i'r Abermaw. Gwelodd lwyddiant mawr ar ei ymdrechiadau, a'r rhai a gyd-lafurient âg ef. Erbyn y Gynnadledd flynyddol yn 1807, yr oedd ganddynt naw o Gylchdeithiau Cymreig; ac yr oedd rhifedi y rhai oeddent mewn undeb eglwysig, yn bedair mil, cant, ac wyth-ar-hugain. Yr oedd Aberystwyth, erbyn hyn hefyd, wedi dyfod yn brif le Cylchdaith, ac yr oedd y Cenhadon Cymreig yn dechreu gwthio eu llafur i Ddeheudir Cymru.

Yr oedd efe pan yn ieuanc, yn Ngwrexham, yn medru ychydig o Gymraeg, cymmaint ag i allu siarad am bethau cyffredin yn rhwydd ynddi. Ond, oblegyd ei fod wedi bod y rhan fwyaf o'i oes yn Lloegr, ac heb gael dim ymarferiad yr holl amser hwnw ar ei siarad, ac wedi esgculuso yn gwbl talu pob sylw iddi, nid oedd ei wybodaeth ynddi,