Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/285

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan yr ymgymmerodd âg Arolygiaeth y Genhadaeth, ond tra anmherffaith. Yr oedd yn gallu ei siarad yn lled rwydd, ond yn garpiog, yn y cynnulliadau eglwysig; eithr ni lwyddodd byth i'w meistroli fel ag i allu pregethu yn gysurus ynddi. Ond er hyny, o'r dechreu cyntaf, fe wnelai ryw gymmaint o ymdrech i bregethu Cymraeg, gan ei fod yn gweled yn eglur mai hi oedd iaith y werin, ac nad oedd obaith iddynt am ymsefydlu yn y wlad ond trwyddi hi. Yn y Saesonaeg yr ysgrifenai yr holl lyfrau a gyhoeddodd, a chyfieithid hwynt gan gyfeillion iddo, Mr. Bryan yn benaf, i'r Gymraeg. Heblaw y llyfrau Dadleuol a ysgrifenwyd ganddo, fe gyhoeddodd hefyd gyfrol o 180 o dudalenau, yn cynnwys "Deuddeg o Bregethau ar Wahanol Destynau," yr hon a argraphwyd yn Nolgellau, yn 1812, gan R. Jones. Dywedir mai Mr. Bryan a gyfieithodd y rhai hyn. Cyhoeddodd hefyd "Gatecism" yn cynnwys 27 o Bennodau ar Brif—byngciau y Grefydd Gristionogol, yr hwn a gyfieithwyd, ni a dybiwn, gan Mr. Edward Jones, Llantysilio. Y mae yn ymddangos i ni mai prin iawn y mae cymmaint ag un o'r rhai a fuant yn cyfieithu iddo wedi gwneyd tegwch âg ef fel awdwr.

Wedi i Mr. Davies fod yn arolygu y Genhadaeth Gymreig am bymtheng mlynedd, yn y Gyunadledd a gynnaliwyd yn Manchester, yn y flwyddyn 1815, fe gynnygiwyd fod iddo roddi y lle hwnw i fynu. Yr oedd efe erbyn hyn, wedi llesgau yn fawr, yn enwedig yn nerth ei aelodau; ac ystyrid yr achosion Cymreig bellach yn ddigon galluog i'w gadael ar eu cyfrifoldeb eu hunain. Penderfynwyd, gan hyny, mai y flwyddyn hono fyddai yr olaf iddo fod yn yr Arolygiaeth, a'i fod i ymadael y Gynnadledd ganlynol. Felly yn y Gynnadledd flynyddol, 1816, fe'i trefnwyd i fyned i Liverpool, lle y bu am ddwy flynedd yn Arolygwr y Gylchdaith Seisonig yno,—sefyllfa a lanwyd ganddo er boddlonrwydd cyffredinol y frawdoliaeth yn y lle pwysig hwnw. Yr oedd ei wendidau corphorol, erbyn hyn, wedi cynnyddu cymmaint, fel y teimlai yn analluog i ymgymmeryd â gofal un Gylchdaith ar ol hyny; ac yr oedd hoffder y cyfeillion yn Liverpool mor fawr tuag ato, a'i anwyldeb yntau yn gymmaint tuag atynt hwythau, fel y penderfynodd gartrefu yno am y gweddill o'i oes, yn ol y drefn a chyda'r gynnaliaeth a ddarperir, yn y Cyfundeb Wesleyaidd, ar gyfer gweinidogion fyddont wedi methu gan henaint neu lesgedd ag ymroddi i'w llafur rheolaidd. Yr oedd efe, pa fodd bynnag, yn parhau i bregethu yn gyson a chyda nerth mawr, heb un arwydd pall na diffyg arno yn y pulpud, hyd o