Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/286

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fewn llai na blwyddyn i'w angeu. Gyda'r Saeson yr oedd yn gweini yn gwbl yr holl flynyddoedd hyn; ond ymwelai yn achlysurol â'i gyfeillion Cymreig yn y dref, y rhai a gyfarfyddent y pryd hyny yn Ben's Gardens. Wedi ychydig ddyddiau o gystudd, bu farw, Ionawr 12, 1830, yn y ddeunawfed flwyddyn a thriugain o'i oedran. Ei eiriau diweddaf oeddent, "Ewyllys yr Arglwydd a wneler." Yr oedd ei ddoniau gweinidogaethol, yn y Saesonaeg, yn fwy poblogaidd na'r cyffredin o'i frodyr; ac er na chyrhaeddodd un hynodrwydd fel pregethwr Cymreig, eto yr oedd ynddo ryw gymhwysderau neillduol ac arbenig i'r hyn a fu yn brif orchwyl ei fywyd,—sefydlu yr achos Wesleyaidd yn Nghymru, ac arolygu ei weithrediadau am yr un-mlynedd-ar-bymtheg cyntaf. Yr oedd yn hynod o hunan-feddiannol, ac ni oddefai i ddim braidd ei gynhyrfu, nac hyd yn nod ei aflonyddu. Cymmerai bob peth yn gwbl dawel, a phan y byddai ereill yn digio ni wnai efe ond gwenu. Ond yr oedd y diofalwch yma yn ei arwain weithiau i fod yn rhy anturus ac anochelgar, ac yn rhy barod i ymddiried mewn dynion heb fod yn gwbl mor unplyg ag ef ei hunan; ac felly fe dynodd arno ei hunan ac ar ereill lawer o ofidiau, yn enwedig trwy godi addoldai, mewn lleoedd ac o dan amgylchiadau nad oedd prin le i ddysgwyl digon oddiwrth y bobl i dalu llogau yr arian heb sôn am ddileu corph y ddyled. Ond y mae Wesleyaeth yn Nghymru, yn ddiddadl, dan fwy o ddyled iddo ef nag i neb arall.

Yr oedd Mr. John Hughes, yr hwn a bennodwyd gan y Gynnadledd yn gyfaill ac yn gynnorthwywr iddo yn sefydliad y Genadaeth Gymreig, yn fab i fasnachwr cyfrifol yn Aberhonddu, lle y ganwyd ef, Mai 18, 1776. Pan yn un-ar-ddeg oed, fe'i dodwyd yn yr Ysgol Rammadegol yn y dref hono, lle y cynnyddodd yn gyflym mewn dysgeidiaeth yn mhell uwchlaw ei gyfoedion. Pan oedd tua thair-ar-ddeg oed fe ddaeth Dr. Coke ar ymweliad âg Aberhonddu, ei dref enedigol, ac fe aeth John Hughies i wrandaw arno. Effeithiodd y bregeth gymmaint ar ei feddwl nes y daeth yn dra difrifol, ac yn fwy ymroddedig nag o`r blaen i'w wersi yn yr ysgol. Yn y flwyddyn ganlynol, 1790, a phan nad ydoedd ond pedair-ar-ddeg oed, fe brofodd gyfnewidiad trwyadl ar ei feddwl; ac fe ymunodd â'r gymdeithas fechan o Wesleyaid oedd yn y dref. Yn mhen tua dwy flynedd ar ol hyny, yr oedd ei dad yn bwriadu ei anfon i Ysgol St. Paul, yn Llundain, gan obeithio ei anfon oddiyno i Rydychain, i'w ddwyn i fynu yn offeiriad yn Eglwys Loegr.