Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/287

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond nid oedd John Hughes yn barod i hyny, ac felly rhoddodd ei dad y meddwl hwnw i fynu. Pan oedd yn ieuanc iawn fe'i derbyniwyd yn bregethwr lleol yn mhlith y Wesleyaid; ac yn y flwyddyn 1796, fe'i pennodwyd gan y Gynnadledd i'r Weinidogaeth deithiol, yn Nghylchdaith Caerdydd. Yn y flwyddyn 1800, fel y gwelsom, fe symudodd i Ogledd Cymru, a bu yn cyd-lafurio â Mr. Owen Davies, gydag egni mawr, am chwe' blynedd, gyda'r amcan oedd mewn golwg ganddynt. Yn y flwyddyn 1803, fe symmudodd i Liverpool i gymmeryd gofal yr achos Cymreig oedd yn dechreu yno, ond gan gyfnewid â'i frodyr yn Nghymru. Yn y Gynnadledd a gynnaliwyd yn Leeds, yn 1806, oblegyd diffyg cyd-olygiad hollol yn mhlith y brodyr yn nghylch y modd yr oedd yr achos Cymreig yn cael ei ddwyn yn mlaen, fe deimlodd mai y peth goreu iddo ef oedd ymneillduo am ychydig at y Saeson; ac felly fe'i trefnwyd gan y Gynnadledd i fyned i Dewsbury yn Yorkshire. Y flwyddyn ganlynol fe'i pennodwyd i Bristol. Yn y flwyddyn 1808, fe ddychwelodd drachefn i Gymru, i Gylchdaith Rhuthin, Yn Ngwanwyn y flwyddyn 1809, ar ddymuniad neillduol Dr. Coke, mewn cysylltiad a'r Book Committee a berthyn i'r Wesleyaid, fe symmudodd i Lundain, er mwyn parotoi talfyriad a chyfieithiad o Esboniad y Doctor ar y Testament Newydd i'r iaith Gymraeg. Yr oedd efe yn dymuno cael gwneyd y gwaith yn Rhuthin, er mwyn cael y fantais i ymgynghori â rhai Cymry dysgedig a fuasent yno yn ei gyrhaedd, yn enwedig y Parch. Mr. Williams, Periglor Llangar, yn agos i Gorwen. Ond yr oedd Dr. Coke a Mr. Owen Davies yn barnu y byddai yn well iddo fyned i Lundain, ac felly fe aeth, gan ymostwng i'w golygiad hwy. Bu gyda'r gorchwyl hwnw am chwe' mis a gorphenodd y gwaith ar yr Efengylau. Nid oedd ganddo ef ddim a wnelai â'r Esboniad ar yr Hen Destament, nac âg un ran o'r Testament Newydd ond yr Efengylau. Dyna ei dystiolaeth bendant ef ei hunan (Memoir of the Rev. Owen Davies, Wesleyan Methodist Magazine; June, July, and August, 1832, page 513): ac y mae yn ddrwg genym weled hyd yn nod rhai cyhoeddiadau Wesleyaidd yn priodoli rhyw ddiffygion neu feiau, a dybir sydd yn y gwaith ar yr Hen Destament, iddo ef. Parhaodd i lafurio am rai blynyddoedd ar ol hyn yn Nghymru: ond yn 1815, fe`i cymmerwyd ef at y Saeson yn gwbl; ac yn eu plith hwy y treuliodd y gweddill o'i oes. Yn y flwyddyn 1832, yr oedd wedi gwanhau cymmaint fel y gorfu arno roddi heibio y weinidogaeth deithiol ac