Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/288

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymsefydlodd yn Knutsford yn Sir Gaer, yn ol y drefn gyffredin yn y Cyfundeb y perthynai iddo, lle y bu farw Mai 15, 1843, yn saithmlwydd-a-thringain oed. Yr oedd yn bregethwr cymmeradwy a buddiol, ond heb nemawr ddim o'r areithiwr ynddo, ac yn rhy dawel a digynhwrf ei ddull i fod mewn un modd yn boblogaidd yn Lloegr mwy nag yn Nghymru. Yr oedd yn ysgrifenydd Seisonig naturiol a rhwydd a phriodol, fel y mae yr amrywiol lyfrau a gyhoeddodd yn yr iaith hono yn profi. Ei brif waith ydyw yr Horae Britannicae, or Studies in Ancient British History, mewn dwy gyfrol wythplyg, a gyhoeddwyd yn 1818—19. Gadawodd ar ei ol mewn ysgrifen lawer o ychwanegiadau at, a diwygiadau ar y gwaith hwn. Pa beth a ddaeth o honynt nis gwyddom. Gresyn fyddai iddynt fyned ar ddifancoll. Yr ydoedd yn Gymro twym-galon, ac yn dwyn eiddigedd mawr dros yr hen iaith. Heblaw y rhan a gymmerodd yn nghyfieithiad gwaith Dr. Coke ar y Testament Newydd i'r Gymraeg, fe gyfieithodd rhai rhanau o ysgrifeniadau dadleuol Mr. Wesley, gan ychwanegu rhai Nodiadau byrion ei hunan. Cyhoeddodd hefyd lyfr yn cynnwys dau cant a hanner o Hymuau Cymraeg at wasanaeth y Wesleyaid, rhai o honynt yn efelychiadau o hymnau y ddau Wesley, ond y cwbl o'i gyfansoddiad ef ei hunan. Y mae llawer o'i ysgrifeniadau yn aros eto yn rhyw le heb eu cyhoeddi erioed, ac un o honynt yn nghadw yn y British Museum. Yr oedd yn ddyn nodedig o lafurus; yn Gristion da; yn weinidog parchus; ac yn llenor dysgedig a manwl annghyffredin. Y mae y crybwyllion hyn wedi ymestyn yn llawer iawn hŵy nag yr amcanem iddynt: ond meddyliasom y byddent yn dderbyniol gan ein darllenwyr, er eu rhoddi mewn ychydig fantais i wybod rhywbeth am y rhai a gymmerasant ran neillduol ac arbenig yn y dadleuon crefyddol a gynhyrfent gymmaint ar Gymru yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif bresennol, dadleuon y mae eu heffeithiau eto yn aros i ryw fesur ar Dduwinyddiaeth a phregethu ein gwlad.

Pan y daeth y brodyr hyn i Gymru gyntaf, y mae yn ymddangos iddynt gael derbyniad lled groesawgar braidd yn mhob man gan hen Fethodistiaid cynnwynol y wlad. Mae Mr. Hughes yn y Cofiant i Mr. Owen Davies, y cyfeiriasom ato uchod, yn dywedyd i Mr. Thomas Jones (Dinbych wedi hyny), pan aeth efe gyntaf i'r Wyddgrug i bregethu, ei wahodd ef i'w dŷ, a'i groesawu mewn modd tra llettygar: a'u bod y pryd hwnw, ac ar ryw adeg ar ol hyny, yn cael boddhad