Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

foddlonrwydd ei henaid ei hun. Ganwyd i'r ddeuddyn hyn naw o blant. Bu William eu mab, a'u hunig fab, farw yn ieuanc; ond cafodd eu hwyth merch fyw i briodi, a hanodd teuluoedd llïosog o honynt, a gellir dywedyd yn dra dibetrus eu bod oll yn dduwiol, ac iddynt huno yn orfoleddus yn yr Iesu. Nid annerbyniol, ni a dybygem, gan y darllenydd fydd y crybwylliadau canlynol am rai o honynt.

Gwen, eu merch henaf, a briododd â John Jones, Llan, Dolyddelen. Hi oedd mam Elizabeth, yr hon sydd eto yn fyw, gweddw y diweddar Barchedig David Roberts, Bangor, ac felly yr oedd yn nain i'r Parchedigion Samuel Roberts, Bangor, a David Roberts, gweinidog yr Annibynwyr, Pendref, Caernarfon. Yr ydoedd hefyd yn nain i Mr. John Williams, Dolyddelen, pregethwr cymeradwy a phoblogaidd yn mhlith y Trefnyddion Calvinaidd, ond a fu farw er ys amryw flynyddoedd bellach, yn ddyn lled ieuanc.

Jane, eu merch, oedd mam y diweddar Barchedig Cadwaladr Owen, un y mae ei enw yn adnabyddus a'i goffadwriaeth yn anwyl trwy holl Gymru, ac un, fel y dywedodd rhyw amaethwr o Leyn am dano, oedd yn bregethwr o'r fath oreu "at use gwlad."

Margaret, eu merch, oedd gwraig yr hen bregethwr call a ffyddlawn, John Williams, Dolyddelen. Ni chawsom unrhyw hysbysiad am gysylltiadau teuluaidd y merched ereill, oddieithr mam gwrthddrych ein Cofiant; ond bendithiwyd hwynt oll â lliaws o blant, ac nid oes amheuaeth nad ydynt oll yn awr yn etifeddu bywyd tragywyddol.

Ganwyd mam y Parch. John Jones yn y flwyddyn 1762. Bu ei rhieni, yn enwedig ei mam, yn ofalus iawn am ei dwyn hi yn gystal a'r plant ereill i fynu, yn ol y manteision oedd ganddynt, yn ngwirioneddau yr efengyl, yn barchus o bethau crefydd, ac yn rhydd oddiwrth yr arferion llygredig ac annuwiol oeddent mor gyffredin y pryd hyny braidd yn mhob parth o'n gwlad. Ni bu eu hymdrech gyda hi, mwy na chyda'r lleill, yn ofer. Nid ydym yn gwybod pa mor fuan ar ol priodi y gwnaeth broffes gyhoeddus o grefydd, ond yr oedd wedi gwneuthur hyny gryn amser o flaen ei gŵr. Yn fuan wedi gwneuthur hyny, dechreuodd godi addoliad yn ei theulu. Ar y cyntaf, byddai ei hunan yn darllen pennod ac yn gweddïo. Ond yn mhen ychydig amser ymgymerai y gŵr à darllen, ac yna elai hithau i weddi. Wedi marwolaeth ei phrïod ac iddi gael ei gadael yn weddw â theulu llïosog, parhaodd i ddal i fynu yr addoliad teuluaidd yn gyson hwyr a boreu.