Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/291

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyrchol iddynt), ac a gyfieithwyd, y pryd y cyfeiriwn yn awr ato, i'r Gymraeg, yn cyflwyno i ni rai esiamplau mor bendant ac amlwg o'r annhegwch hwn, a dim braidd a ellir gael yn Hanes dadleuon crefyddol unrhyw wlad neu oes. Heblaw hyny, y mae yn dra sicr fod y brodyr Wesleyaidd, yn y blynyddoedd cyntaf, yn cael eu hystyried yn rhai rhy dueddol i broselytio, ac yn arwyddo mwy o awydd i ennill rhai oddiwrth yr enwadau ereill, yn enwedig oddiwrth y Methodistiaid, i'w plaid eu hunain, nag a gydweddai yn gwbl â'r tegwch a'r gonestrwydd angenrheidiol, er sicrhau tangnefedd a chymmydogaeth dda rhwng y naill enwad crefyddol a'r llall. Rhwng pob peth, y mae yn ddiddadl fod yr enwadau Calvinaidd yn teimlo, fod y bobl newydd oeddent wedi dyfod i'r wlad yn gwneuthur llawer o gam â hwynt:—yn cam-ddarlunio eu golygiadau; yn lladrata eu pobl; ac yn achlesu y rhai a ddiarddelid ganddynt; —heblaw fod eu hathrawiaeth, yn ol eu barn gydwybodol hwy, yn groes i ddysgeidiaeth yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac yn beryglus i eneidiau dynion.

Y mae tegwch, pa fodd bynnag, yn ein rhwymo i ddyweayd fod yr enwadau Calvinaidd, hwythau hefyd, yn gwneyd eu rhan yn eithaf medrus, i gadw i fynu yr ymbleidio oedd rhyngddynt â'r Wesleyaid. Yr oedd eu syniadau hwy am Arminiaeth wedi eu cymmeryd oddiwrth yr hyn yr ymddirywiasai iddo yn Holland, wedi marw Arminius,—fel yr ymddengys yn ysgrifeniadau Grotius, Episcopius, Curcellaeus, Limborch, ac ereill; ac megis y dysgasid hi yn Lloegr, er dyddiau yr Archesgob Laud; ac, yn wir, fel yr ydoedd yn cael ei dysgu, ar y pryd, yn Neheudir Cymru, yn yr hen gynnulleidfaoedd oeddent wedi ymadael â ffydd eu hynafiaid, yn gystal ag yn y nifer amlaf o'r Llanau plwyfol trwy y wlad yn gyffredinol. A chanddynt hwy nid oedd yn ddim amgen na Chyfundraeth yn gwneyd dyn i fesur mawr yn Waredwr iddo ei hun; Iesu Grist yn ddim mwy nag un i gyflenwi diffygion ymdrechiadau y pechadur; un y mae edifeirwch a diwygiad a gweithredoedd da y pechadur, yn cael, er mwyn ei aberth ef, eu derbyn er cymmeradwyaeth iddo ger bron Duw. Dyma yr Arminiaeth a adwaenent hwy. Ond yr oedd gwahaniaeth hollol rhwng Arminiaeth Mr. Wesley, o'r dechreuad, a'r athrawiaeth hon. Mae yn wir y byddai, weithiau, yn defnyddio ymadroddion a ymddangosent fel yn arwyddo gormod o gyfathrach rhyngddo â hi; ac yn enwedig bod "Minutes 1770," y rhai a dynasant gymmaint o sylw, a