Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/293

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cael, yn mysg ereill, y cyfeiriadau canlynol:—"Nid yw Wesleyaeth yn rhoddi dim anrhydedd i'r Iesu, ond talu ei ran ei hun, fel cynnorthwywr, a gadael myrddiynau i fyned i uffern am beidio talu eu rhanau hwy eu hunain;" "Y mae Wesleyaeth gibdall yn meddwl nad oedd Iesu yn adnabod y bobl y machnïodd drostynt;" "Ac nid fel y mae Wesleyaeth yn cynnwys, mai dyben Crist oedd, nid llwyrachub, ond agor cil y drws i bawb, a'u codi i stâd o brofiad, i wneuthur yr ammodau sydd angenrheidiol tuag at achub eu hunain;" "Y mae Wesleyaeth mor groesed i athrawiaeth Paul ag yw yr angel drwg i'r angel da;" "Y mae Wesleyaeth yn arddel rhyw rith o brynedigaeth, na fedr gadw un dyn, ond trwy ei fod ef yn cyflawni llawer o ammodau;" Prynedigaeth wanllyd iawn y mae y Wesleyaid yn bregethu ar hyd y wlad: yn cael eu cynhyrfu a'u harddel gan ddiafol i dduo gras Duw;" "Y mae Wesleyaeth yn dala na wnaeth ond gwneuthur lliw o ddioddef cospedigaeth ei bobl, fel y gallant hwy, oni chyflawnant ammodau Wesleyaidd, fyned i ddioddef y gospedigaeth ddyledus am bechod eto;" "Y mae Wesleyaid agos mor dywyll a dynion heb weled y Bibl, am drefn y cyfammod newydd" (tu dal. 14, 15, 16, 19). Y mae ganddo amryw gyfeiriadau i'r un ystyr. Yr ydym yn gweled fod Golygydd yr ail-argraffiad wedi gadael rhai o honynt allan: ond yr ydym ni wedi dodi y rhai gwaethaf i mewn yma, am mai ein hamcan yw ceisio dangos yr ysbryd ag oedd y pryd hyny yn ffynu yn y wlad, a'r modd yr oedd ein gwyr galluocaf ac enwocaf a duwiolaf, yn cael dylanwadu arnynt ganddo. Ni a glywsom ein hunain Mr. Williams o'r Wern yn dywedyd:—"Nid oedd pregeth yn werth dim gynt, os na byddai ynddi ryw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda' i yn cywilyddio wrth gofio fel y bum i fy hunan yn fynych yn ei phaentio." Nid oes un lle i ammeu nad oedd teimladau cryfion iawn wedi eu cynnyrchu yn y wlad ar y pynciau oeddent mewn dadl; ac nad oedd y naill blaid yn gystal a'r llall yn defnyddio iaith a ymddangosai i ni yn awr yn dra anmhulpudaidd wrth lefaru am eu gilydd.

Nis gallwn yn hollol benderfynu pa fodd y dechreuodd y Ddadl trwy y Wasg, gan ein bod wedi methu yn gwbl a chael gafael ar y defnyddiau angenrheidiol at hyny. Hyd ag y gallwn yn awr ddeall, y mae yn ymddangos i ni fod yr ymosodiad cyntaf wedi ei wneuthur gan y brodyr Wesleyaidd eu hunain, trwy ledaeniad Traethodyn a elwid:—"Yr Arfaeth Fawr Dragwyddol." Yr Athrawiaeth Ysgrythyrol ynghylch