Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/294

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arfaeth, Etholedigaeth, a Gwrthodedigaeth. Gan John Wesley, M.A." Yn ol Mr. Hughes (Memoir of the Rev. Owen Davies, Wesleyan Methodist Magazine, for July 1882, page 475), fe ymddengys i'r Traethodyn hwn gael ei gyfieithu gan ryw Lyfrwerthwr yn Neheudir Cymru, ond fod y gweinidogion Wesleyaidd wedi gwneyd ymdrech neillduol i'w ledaenu, yn enwedig yn Sir Ddinbych; a'i fod wedi cael ei ddarllen gydag awyddfryd mawr gan lawer o bobl yno. Ni dygwyddodd i ni erioed weled yr argraffiad hwnw, a daenwyd felly: ond y mae yn ein meddiant gopi o'r hyn, ni a dybiem, oedd yn ail-argraffiad o hono, a ddygwyd allan yn y Mwythig, gan M. Wood, yn y flwyddyn 1803. Nid ydyw ond byr—dim ond 18 o dudalenau. Ar ei ddiwedd, o tudalen 19 hyd 24, y mae "Casgliad o Waith y Parchedig Mr. John Wesley, yn dangos y canlyniadau ofnadwy ynglŷn wrth Etholedigaeth Ddiammodol; gan yr un Awdwr (Sic). A Gyfieithwyd gan John Bryan." Y mae y diweddaf yma wedi ei gyfieithu yn druenus: a rhwng y Cyfieithydd a'r Argraffydd, y mae rhai rhanau o hono, yn ei ddiwyg Gymreig, nad ydynt yn cynnwys synwyr o un math; a rhai rhanau yn ddiddadl yn trosglwyddo meddwl hollol wahanol i'r hyn a amcenid gan yr awdwr a'r cyfieithydd. Y mae y naill a'r llall o'r cyhoeddiadau hyn yn llefaru yn y modd mwyaf dirmygus am Etholedigaeth gras, yn ol y golygiad Calvinaidd arni; ac yn taeru drosodd a throsodd drachefn, yn y modd mwyaf penderfynol, heb ddywedyd haerllug, fod yr hyn a honir ynddynt megis canlyniadau i'r Gyfundraeth Galvinaidd yn rhanau hanfodol o honi. Yr ydym yn tybied nad gwaith Mr. Wesley ei hunan yn uniongyrchol yw y naill na'r llall; o leiaf yr ydym ni wedi methu cael gafael arnynt yn ei ysgrifeniadau ef, yn yr argraffiad o honynt mewn pedair cyfrol ar ddeg wythplyg, a gyhoeddwyd dan olygiad Mr. Thomas Jackson, ac a gyfrifir yn cynnwys ei holl waith. Ni a dybygem eu bod naill ai wedi eu cymmeryd o un o'r llyfrau lawer,―hanner can cyfrol a gyhoeddwyd ganddo, mewn gwedd dalfyredig allan o waith awdwyr ereill, dan yr enw Christian Library, neu ynte yn grynöad o eiddo rhyw un arall allan o'r amrywiol gyfansoddiadau, ar yr un testynau, a ysgrifenwyd ganddo ef ei hunan.

Yn y flwyddyn 1802, fe gyhoeddwyd gan y diweddar Barch. John Humphreys, Caerwys, argraffiad newydd, a'r cyfieithiad wedi ei ddiwygio yn fawr, o waith Mr. Eliseus Cole ar "Benarglwyddiaeth Duw." Argraffwyd hwn yn Nghaerlleon, gan W. C. Jones. Gelwir hwn y