Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/295

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trydydd argraffiad: ac y mae y Golygydd yn cyfeirio at y rhai a dyb‍id ganddo ef fel yr unig rai blaenorol, yr argraffiadau yn 1711 a 1760, heb ymddangos yn gwybod dim am yr argraffiad yn 1729, y cyfeiriasom ato ychydig du dalenau yn ol. Y mae yn amlwg fod yr argraffiad yn awr dan ein sylw, wedi ei fwriadu gan y Cyhoeddwr fel amddiffyniad i'r athrawiaeth Galvinaidd, yn wyneb yr ymosodiadau a wneid arni gan y Wesleyaid yn y wlad; oblegyd yn ei gyfarchiad at y Darllenydd, sydd yn rhagflaenu y Llyfr, efe a ddywed,—" Diammeu fod cymmaint achos am fod yn ddiysgog yn yr athrawiaethau cedyrn, anwrthwynebol, a drinir ynddo, yn y dyddiau hyn, ag a fu un amser; pan y mae cynnifer, tan rith o bregethu yr efengyl, nad ydynt ddim gwell na gelynion i'w gwir athrawiaethau bendigedig hi." Cyhoeddiad yr argraffiad hwn o waith Eliseus Cole, a gymmerwyd, fel y cawn weled yn fuan, yn rheswm dros ddwyn allan gyfieithiad o un o brif lyfrau Mr. Wesley ar y ddadl i'r iaith Cymraeg.

Tua y pryd hwn, nid ydym yn gwybod yr amser yn fanwl, gan na welsom gopi o hono yn y Gymraeg, fe gyhoeddwyd "Dyrnod at y Gwreiddyn," cyfieithiad o draethodyn bychan o eiddo Mr. Wesley (Blow at the Root: Works Vol. X. pages 364–369), yn yr hwn, tra na sonir gair am na Chalviniaeth nac Arminiaeth nac Antinomiaeth, yr ymosodir yn erbyn rhyw syniadau Antinomaidd, y gallai fod rhywrai y gwyddai Mr. Wesley am danynt yn eu dysgu, ond dieithr hollol ar y pryd yn Nghymru, ac y mae hyny yn cael ei wneyd yn y fath fodd, ag i arwain yr Anwybodus braidd i dybied, eu bod yn ganlyniadau naturiol yr athrawiaeth am gadwedigaeth o ras a chyfiawnhad trwy ffydd yn unig, yn y golygiad Calvinaidd arni. Gwnaed ymdrechiadau dirfawr gan y pregethwyr Wesleyaidd, megis ag yr oedd yn gwbl naturiol a chyfreithlawn iddynt, i daenu y traethodyn ar "Yr Arfaeth Fawr Dragywyddol" trwy holl Ogledd Cymru; ac er gwendid yr ymresymiad a holl anmherffeithrwydd y cyfieithiad, y mae yn ddiddadl fod cryn gymhwysder ynddo, oblegyd y nodwedd arbenig y cyfeiriasom ato a berthynai iddo, i greu rhagfarn gref yn meddyliau y werin yn erbyn yr hyn a adnabyddid wrth yr enw Calviniaeth. Nid ydym yn gwybod, pa fodd bynnag, ond am un atebiad iddo trwy y Wasg, sef,—"Ffurf yr Ymadroddion Iachus, yn cael ei gynnyg yn Hyfforddydd i Blant Seion: neu Wrth—Feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth yn yr hwn y gwneir Sylwiadau teg a diduedd: yn cynnwys Llawn Attebiad i Lyfr