Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/296

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. J. Wesley; a elwir yr Arfaeth Fawr Dragywyddol, fel y byddo i broffeswyr ieuainc ei ddarllen. Gan Christmas Evans; gydâ rhai Nodiadau, Gan Titus Lewis. Caerfyrddin: Argraphwyd ac ar werth gan John Evans, 1803." Mae hwn yn llyfryn o 40 o dudalenau. Mae corph y llyfr gan Mr. Christmas Evans, er fod "Nodiadau " Mr. Titus Lewis yn lled helaeth, ac yn amcanu, hyd y cyrhaeddant, dybygem ni, at ymchwiliad manylach a mwy ymresymiadol i'r amrywiol gwestiynau sydd ganddo dan sylw nag a geir gan Mr. Christmas Evans ei hunan. Y mae y naill a'r llall yn dra Chalvinaidd, ac yn cymmeryd golygiad cryf, cwbl bendant a diammwys, ar Etholedigaeth bersonol, Prynedigaeth neillduol, a'r athrawiaethau ereill, cysylltiedig a hwynt. Yr un pryd, y mae Mr. Christmas Evans yn dadleu yn groew, mai "gyda rhagolwg ar eu cwymp," ac felly "fel colledigion yn yr Adda cyntaf, yr etholwyd hwynt i gael eu gwaredu trwy yr ail Adda " (tu dal. 19, 21.) Yn ganlynol, y mae yn ymwrthod yn gwbl a'r syniad am Wrthodedigaeth dragywyddol ddiammodol, ac yn datgan nad yw yn annghytuno â Mr. Wesley, pan y dywed,—"Gwrthodedigaeth ydyw rhagordeiniad Duw i ddamnio anghredinwyr am eu pechod " (tu dal. 7, 8). Mae Mr. Titus Lewis yn cyflenwi "Sylwiadau " Mr. Christmas Evans, â rhai "Nodiadau" ar gysondeb galwad yr efengyl ar bawb âg etholedigaeth rhyw rai: —"Yn yr efengyl y mae bara'r bywyd, i eneidiau parod i farw o newyn, a dwfr y bywyd i rai sychedig, a galwad i bawb o'r cyfryw i ddyfod ym mlaen i fwynhau bendithion y cymmod, yn rhodd ac yn rhad; heb arian ac heb werth. Nid i bechaduriaid, a'u hystyried fel etholedigion, y mae maddeuant trugaredd a gras, yn cael eu cyhoeddi; ond i bechaduriaid, a'u hystyried fel rhai ar ddarfod am danynt i'r cyfryw, mae'r gwahoddiadau mwyaf taer a thyner, i edrych ar Grist, pwyso arno, ac ymddiried ynddo, fel unig a digonol Waredwr; ac wrth wneuthur hyny, cânt dderbyn maddeuant o'u pechodau, heddwch i'w cydwybodau, rhyddhad oddiwrth ddigofaint, a mwynhad o ogoniant. Mae'r ysgrythyrau, yn gyffredin, yn gyson â'r drych-feddwl uchod. Barnu yn wahanol sydd yn tarddu oddiar gamddarluniad o etholedigaeth; a'r canlyniad fydd gwneuthur camymarferiad o honi" (tu dal. 23.) Ond er y Sylwadau hyn ac ereill, y mae y llyfr yn llawer rhy un-ochrog, hyd yn nod fel Amddiffyniad i Galviniaeth, ac, yn enwedig, fel "Gwrth-Feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth." Mae Mr. Christmas Evans yn ysgrifenu ymą