Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/297

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn llawer mwy moesgar a boneddigaidd, ac yn trin y rhai a wrthwynebir ganddo yn llawer mwy tyner, nag y mae awdwr y Traethodyn y sylwa arno yn trin y Calviniaid. Yr ydym braidd yn tueddu i dybied fod a wnelai Mr. Titus Lewis rywbeth a hyny: ei fod ef, gan ei fod yn preswylio yn Nghaerfyrddin, lle yr oedd y llyfr yn cael ei argraffu, ac yn ddiammeu yn golygu ac yn cywiro y prawfleni pan oedd yn cael ei ddwyn allan o'r Wasg, wedi cymmeryd ei ryddid hefyd i docio rhyw gymmaint ar y pethau garwaf ynddo cyn ei gyflwyno ger bron y byd. Ond ein casgliad ni yn unig ydyw hyn. Y mae yma rai engreifftiau amlwg, yn y llyfryn hwn, o'r dawn neillduol oedd yn eiddo i Mr. Christmas Evans, ac a ddaeth i'w hynodi yn fwy mewn blynyddoedd diweddarach, ag y buasem yn dymuno yn fawr eu dodi ger bron ein darllenwyr; ond rhaid i ni ymattal: gan gofio mai pennod, ac nid cyfrol, sydd genym i'w hysgrifenu ar hanes y pynciau hyn.

Yn atebiad i'r llyfr hwn, fe gyhoeddwyd, "Etholedigaeth diammodol: a rhai o ganlyniadau Echryslon yr athrawiaeth hono. Wedi ei gymmeryd allan o waith Mr. Wesley, ac eraill. Ynghyd ag ychydig o Ystyriaethau ar y Llyfr a elwir Gwrth—feddyginiaeth yn erbyn Gwenwyn Arminiaeth. Caernarfon: Argraphwyd gan T. Roberts, 1803." Nid yw y rhan gyntaf o'r traethodyn hwn, ond ail-argraffiad, gan ychwanegu rhai pethau, gadael rhai pethau allan, a cheisio diwygio beiau y cyfieithiad a'r argraffwasg o'r darn, y cyfeiriasom ato uchod, a ychwanegasid, gan Mr. John Bryan, at y traethodyn am yr Arfaeth Fawr dragywyddol, a gyhoeddasid yn y Mwythig ychydig fisoedd cyn hyn. Nid oes un amheuaeth nad Mr. Bryan a gyhoeddodd hwn hefyd. Y mae anallu yr ysgrifenydd i ffurfio braidd frawddeg mewn dull—iaith Cymreig priodol;—yr amddifadrwydd perffaith a arddengys o bob gallu ymresymiadol, a'r tanbeidrwydd tymher sydd yn rhedeg trwyddo ac yn gosod gwedd mor eithafol arno, ar unwaith yn penderfynu hyny. Nid yw y rhan yma i'r traethodyn ond pedwar tu dalen: ac eto y mae yma fwy o haerllugrwydd nag a fuasai ysgrifenydd ag ychydig fwy o bwyll ganddo yn allu wthio i gyfrol o bedwar cant o dudalenau. Yr un pryd, a chymmeryd i ystyriaeth amgylchiadau y wlad y dyddiau hyny, y mae yn ddigon posibl ei fod, oblegyd y dull eithafol, oraclaidd, trahaus, a ddefnyddia yr ysgrifenydd i amddiffyn ei egwyddorion, yn fwy cyfaddas i effeithio er sicrhau yr amcan oedd ganddo mewn golwg, gyda channoedd o ddarllenwyr, na phe buasai wedi ei ysgrifenu