Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/298

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn dull mwy cymmedrol, ac mewn iaith ac ysbryd mwy boneddigaidd a Christionogol. Mae y gweddill o'r traethodyn—llai na saith tu dalen—sydd yn cynnwys yr " Ystyriaethau" ar lyfr Mr. Christmas Evans, yn gynllun teg o feddwl Mr. Bryan, ac yn engraifft ryfedd o feirniadu ac ymresymu. Nid ydym yn cofio i ni erioed weled mewn can lleied o le, gymmaint o gamddarlunio, gan un ysgrifenydd, ar olygiadau y rhai a wrthwynebid ganddo, a hyny, dybygid, heb un meddwl nad oedd drwy y cwbl yn rhoddi darluniad teg hollol o honynt. Yr oedd Mr. Christmas Evans wedi dywedyd,—" Mae holl fodrwyau'r iachawdwriaeth, o'r cyntaf hyd yr olaf, yn tarddu o ras Penarglwyddiaethol!" Y mae yr awdwr hwn yn gwneyd hynyna yr un peth a,"Mae holl fodrwyau gwrthodedigaeth, o'r cyntaf hyd yr olaf, yn tarddu o lid Penarglwyddiaethol." "Boddlonrwydd ei ewyllys," meddai Mr. Christmas Evans, "oedd rhoddi'r eglwys i Grist." Hyny yw, meddai y papurun anfad hwn, "Boddlonrwydd ei ewyllys oedd rhoddi pawb arall i'r cythraul." Oherwydd," meddai Mr. Christmas Evans, "i ryngu bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder o ras a gogoniant i'r eglwys yn Nghrist, fel eu pen, bydd i Grist, yr hwn sydd ffyddlon, i roddi ffydd ac edifeirwch iddynt: Efe a dyn bawb o honynt ato ei hun, i dderbyn o'i lawnder." Y mae y Nodiedydd hwn yn gwneyd hyna yn gyfystyr â," Oherwydd i ryngu bodd i'r Tad drigo o bob cyflawnder o lid a digofaint i'r gwrthodedigion yn Satan fel eu pen, bydd i Grist, yr hwn sydd ffyddlon, i beidio rhoddi ffydd ac edifeirwch iddynt: Efe, sef Satan, a dyn bawb o honynt ato ei hun, i dderbyn o'i lawnder." ("GwrthFeddyginiaeth," tu dal. 12; " Ychydig o Ystyriaethau," tu dal. 7, 8). Mae yn ddrwg genym anurddo ein tu dalenau â brawddegau mor annghelfydd, heb sôn am rai mor gableddus; ond ni chaniata tegwch â'r hanes i ni eu hattal yn hollol. Y mae y traethodyn drwyddo, o'r un nodwedd. Y mae yr awdwr yn ei ddiwedd yn ymesgusodi am beidio "sylwi ar bob rhan o'r llyfr" oedd ger ei fron, "oherwydd fod gwaith yn myned i'r argraphwasg, sydd yn fwy helaeth, ac yn sylwi yn fwy manol, yr hwn fydd allan yn fuan." Yn mhen ychydig amser wedi cyhoeddiad y traethodyn hwn, fe ymddangosodd "Gair yn ei bryd. Yn cynnwys Attebiad i'r Athrawiaeth Wrthwynebol i Benarglwyddiaethol Ras: a osodwyd allan gan ryw un o'r Blaid honno, dan enw Etholedigaeth Diammodol, &c.: ac yn cynnwys AMDDIFFYNIAD i'r GWRTHFEDDYGINIAETH, neu Attebiad i'r