Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/299

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arfaeth Fawr Dragywyddol; gan Mr. Wesley. Lle dangosir mai Drygliwio yr Athrawiaeth o Benarglwyddiaethol Ras y mae ef. Gan Christmas Evans. Caernarfon: Argraphwyd gan T. Roberts. 1803." Llyfryn bychan o 24 o du dalenau ydyw hwn. Wedi ysgrifenu ac argraffu y Nodiadau uchod y daeth i'n dwylaw ni, ac yr ydym yn gweled ynddo ar unwaith fod yr awdwr, fel ninau, yn tybied mai Mr. Bryan oedd yr hwn a ysgrifenasai yr Ystyriaethau" ar ei lyfryn blaenorol. Dyma fel y mae yn dechreu yr Attebiad hwn:—"Mae llawer o wyr dysgedig wedi bod yn ysgrifenu yn erbyn Mr. Wesley, ac wedi codi llawer o resymiadau anattebol yn ei erbyn ef. Ond pan byddai Wesley yn atteb, ni byddai ef yn sylwi ar resymau ei wrthwynebwr, ond rhedeg ymlaen i ddyweud ei stori ei hun, trwy ddrwg liwio 'r athrawiaeth o neillduol ras. Felly mae Mr. Bryan neu ryw un arall yn fy atteb innau. Ni wnaeth sylw ar ddim yn deg.—Mae hyny yn dangos naill, nad oes dim galluoedd gantho i'r gwaith, neu fod ei Bwngc yn ddrwg, neu ei fod yn ddigydwybod, fel nad oes arno ofal i wneud chwareu teg â rhesymau ei wrthwynebwr.—Hysbys ydyw i bob Armin, neu wrthwynebwr rhad ras, fod rhagfarn y byd annuwiol o'i du ef. Mae pob dyn digrefydd yn y wlad yn credu fod Crist wedi marw drosto, ac fod ganddo ewyllys rydd; mae'n gyfaill Bryan, &c." Mae yr awdwr, yn y rhan gyntaf o'r llyfr, yn rhoddi atebiad lled fanwl, ond cryno, i'r gwrthddadleuon a ddygir yn mlaen yn y traethodyn y sylwa arno, yn erbyn y golygiad Calvinaidd ar Etholedigaeth gras; ac yn dangos mai nid etholedigaeth i swyddau ydyw, ond i sancteiddrwydd ac i iachawdwriaeth. Mae yn dadleu yn gryf nad ydyw yr athrawiaeth ysgrythyrol am etholedigaeth, yn cynnwys dim mwy o Wrthodedigaeth nag a gydnabyddir gan Mr. Wesley ei hunan; a bod yr un anhawsder yn ei Gyfundraeth ef, ag sydd yn yr athrawiaeth Galvinaidd, gyda golwg ar annghredinwyr, cyhyd ag y glyno wrth ei addefiad, fod Duw wedi penderfynu a rhag-ordeinio eu damnio fel y cyfryw a'i fod yn rhagwybod yn berffaith bawb a barhaent felly (tu dal. 5, 10). Mae yn arfer geiriau celyd iawn am Mr. Wesley, a'r rhai a gytunant âg ef, yn arwyddo y teimladau a ffynent yn ein gwlad y pryd hyny. Dyma rai engreifftiau:—"Er bod Wesley, er dirmyg tragywyddol i waed Oen Duw;" "Yn ol athrawiaeth Wesley, gall Duw alw yr act o gyfiawnhȧd yn ol, a damnio dros byth y rhai a gyfiawnhäwyd unwaith.—Atheistiaeth dan orchudd ydyw y fath