Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mhen rhai blynyddoedd daeth rhai o'i phlant ieuangaf i'w chynnorthwyo trwy fyned trwy y gwasanaeth bob yn ail â'u mam. Methodd yn hollol a chael gan John ei mab hynaf ymaflyd yn y gorchwyl hwnw, hyd wedi ei ail ymuniad â'r eglwys, ar ol bod o hono, fel y cawn weled eto, allan am dymhor. Argyhoeddwyd hi ei bod wedi oedi yn rhy hir gosod hyny arno ef, nes gadael iddo dyfu i oedran rhy fawr heb ddechreu ymarfer. Felly cymhellodd y bechgyn ieuangaf, tra mewn oedran tra thyner, i gymeryd rhan ynddo. Byth wedi hyny, yn enwedig wedi gweled y ffrwythau da a ganlynasant, arferai yn fynych wneuthur y sylw, y dylai rhïeni crefyddol ddodi ar eu plant yn dra ieuanc gymeryd rhan yn ngwasanaeth yr addoliad teuluaidd, os amgen y byddai yn anhaws o lawer ganddynt, ac yn anhaws iddynt, wedi tyfu i dipyn o oedran ddechreu ar y gwaith. Yr oedd y pryd hwnw gryn nifer yn gweithio yn nghloddfa llechau Dolyddelen, a llawer o honynt yn wŷr ieuainc tra anystyriol. Yr oedd amryw o honynt yn lletya yn Nhan-y-Castell gan ei fod mor agos i'r gwaith. Ond parhäodd Elinor Jones i ddal i fynu yr addoliad teuluaidd yn eu mysg yn ddigolliant. Yr oedd ganddi ddylanwad dirfawr hyd yn nod ar y rhai gwylltaf o honynt, ac ni feiddiai yr un o honynt ddywedyd na gwneuthur dim anweddaidd yn ei gwydd hi.

Yr oedd wedi ei bendithio à chorph hardd a lluniaidd, a chryf ac iachus, ac â meddwl o alluoedd naturiol pell iawn uwchlaw y cyffredin, ac yn nodedig o benderfynol yn yr hyn yr ymgymerai àg ef. Yr oedd yn meddiannu cydnabyddiaeth a'r ysgrythyrau a ystyriasid yn helaeth braidd mewn pregethwr, ac yr oedd ei doniau mewn gweddi yn hynod o ddysglaer. Y mae lliaws eto yn fyw, heblaw ei phlant, yn dystion mai anaml iawn y clywsant neb mwy rhwydd a gafaelgar a difrifol ger bron gorseddfainc y gras nag oedd hi. Nid oedd ei doniau yn ddim llai mewn ymddyddan, yn enwedig os crefydd fyddai y testyn Ni ddelai dim braidd dan sylw na byddai ganddi hi ryw feddwl o'i heiddo ei hunan tra gwreiddiol arno, ac ni byddai byth ar goll am y geiriau mwyaf priodol, a chyflawnder o honynt, i ddangos ei meddwl. Yr oedd yn cymdeithasu llawer à phethau ysbrydol, ac yn mwynhau ar hyd ei hoes grefyddol yn helaeth iawn o gysuron yr efengyl, ac yr oedd ei holl ymarweddiad yn gwbl gyson à hyny. Yr oedd iddi air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hunan. Nid oedd ei chrefydd hi yn ei gwneuthur yn esgeulus o'r byd, ond yr oedd yn wir ofalus a