Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/300

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

feddyliau. Ac yr wyf fi yn meddwl, na bydd i un dyn a oleuwyd gan yr Ysbryd i weled natur deddf a gras, ac ef ei hun, fel dyn dirywiol, byth ei chredu: ond am ddynion hunan gyfiawn, iach, y mae wrth fodd eu harchwaeth gnawdol hwy;" "Barn fawr, bobl anwyl, ydyw credu y fath byngciau;" "Dyma gabledd, bobl anwyl;" Ofnwn bobl anwyl y fath gabledd;" "Nid wyf fi yn edrych fawr gwaeth ar ddidduwiaeth ei hun na'r cabledd hwn;" "Yn wir, bobl, ni waeth lawer gwadu'r holl Fibl na dal y tybiau hyn. Fy nymuniad ydyw, fod Duw yn bendithio'r llyfran hwn i waredu rhyw enaid rhag rhith ras John Wesley;" "Blin genyf feddwl am dywyllwch y Wesleyaid am bethau mawrion Duw, a'r fath resymau anaddas a ddefnyddiant i gadarnhau eu pyngciau. Buan y delo Duw a gwŷr y rhith ras, i adnabod gwir ras Duw." (tu dal. 8, 13, 14, 15.)

Y mae yr ail ran o'r llyfryn, yn ngeiriau yr awdwr, "yn cynnwys sylwiadau ac amddiffyniad i'r Gwrthfeddyginiaeth, yn erbyn camddarluniadau'r awdwr, sef Bryan, ar ddim ar a wn i." Y mae yn datgan ar unwaith ei benderfyniad i beidio "sylwi dim yn bersonol arno." Nid ydym yn ammeu dim nad oedd hyny braidd yn dreth ar ei dynerwch hefyd; ac, yn sicr, yr oedd yn dynerwch mawr at Mr. Bryan: oblegyd yr oedd efe wedi haeddu curfa go dda: ac y mae yn ddiamheuol pe buasai Mr. Christmas Evans yn dechreu arno, mai nid ar ychydig y gollyngasid ef yn rhydd. Rhyw unwaith neu ddwy y mae fel yn annghofio y penderfyniad hwn. Pan yn sylwi ar ŵyrdroad Mr. Bryan ar ei eiriau ef, gyda golwg ar Etholedigaeth gras, y mae fel yn methu ymattal, ac yn gwaeddi, "Rhyfyg a chabledd arswydus; ac yr wyf fi yn credu na lefarasai neb felly ond dyn a chalon ddidduwiaidd dan ei fron;""Cabledd calon ddidduwiaidd ydyw'r pethau hyn " (tu dal. 19). Oddieithr hyn, y mae yn ymliw ag ef yn lled dawel, a chyda llai o fywyd ac o nerth nag a ddangosid ganddo yn gyffredin yn ei ysgrifeniadau; ac eto, gyda llawn ddigon i ddangos geudeb yr haeriadau a wnelsid gan Mr. Bryan. Dichon fod eiddilwch y sawl yr ymosodai arno yn anfantais iddo i ddangos ei nerth. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, fod mwy o hono o lawer yn dyfod i'r golwg pan y mae yn rhuthro ar, ac yn maeddu Mr. Wesley.

Fe gyhoeddwyd pregeth, tua'r un amser ag y cyhoeddwyd y "Gwrthfeddyginiaeth," gan Mr. Powell, gweinidog yr Annibynwyr, yn Rhos-y-Meirch, Sir Fôn, yn erbyn y syniad Arminaidd am Brynedigaeth