Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/301

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyffredinol, oddiar y geiriau yn 2 Cor. v. 15, "Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd." Methasom a chael golwg ar y bregeth ond y mae Mr. Bryan yn sylwi, gyda golwg arni, "Gellir dyweud am ei hawdwr, ac awdwr y llyfr Gwrthfeddyginiaeth, &c., eu bod yn cyduno yn awr fel Herod a Philat gynt (y rhai oedd elynion o'r blaen), i waeddi Croeshoelier, Croeshoelier hwynt. Ond, Er maint oedd llid uffernol gryw, Mae'r Oen a laddwyd eto'n fyw; Ac am fod Iesu 'n fyw, Byw hefyd fydd ei saint, &c." Ar hyn, fe sylwa Mr. Christmas Evans:—"Gallasai ef beidio cyffelybu Mr. Powell a finau i Herod a Philat yn hawdd; dylasai ystyried peth o'i gamrau ei hun!!!"

Yn mhen ychydig ar ol hyn, fe ddygwyd allan o'r wasg y llyfr a addewsid gan Mr. Bryan fel un yn myned i mewn yn fwy helaeth a manwl i'r ddadl, sef, "Athrawiaeth Rhagluniad Dwyfol, wedi ei ddyfrifol a'i fanol ystyried; sef, Traethawd ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ac Helaethder y Prynedigaeth Cristionogol. Gan y diweddar Parchedig John Wesley. At ba un y 'chwanegwyd, Dwy Bregeth, o waith y diweddar Parchedig John Wallter. Caerlleon: Argraffwyd gan J. Hemingway, 1803." Cyfieithiad ydyw hwn, gan adael allan rai o'r sylwadau mwyaf beirniadol, o'r "Predestination Calmly Considered," a geir yn yr argraffiad cyflawn o Ysgrifeniadau Mr. Wesley, Vol. X. pages 204—259. Y Parchedig John Wallter, awdwr y ddwy bregeth a gyhoeddir yma, oedd Person Llandoch, yn Sir Forganwg, ac awdwr y Geiriadur Saesonaeg a Chymraeg. Y Cyfieithydd oedd "Ioan Hughes," sef y Parch. John Hughes, oedd wedi ei anfon, gan y Gynnadledd Wesleyaidd, yn gynnorthwywr i'r Parch. Owen Davies, gyda'r Genhadaeth Gymreig. Yr oedd y cyfieithydd wedi bwriadu ychwanegu at y traethawd amrywiol Nodiadau o'i eiddo ei hunan, ond methodd gael hamdden i hyny; a dyna y rheswm paham yr ychwanegodd y Ddwy bregeth gan Mr. Walters. Yr oedd y rhai hyn wedi eu cyhoeddi o'r blaen—" Dwy Bregeth ar Ezec. xxxiii. 11, &c. Gan Ioan Walter, Person Llandochen, Pont y Fon. Argraffwyd gan R. Tomos. MDCCLXXII." Y mae y pregethau yn profi fod yr awdwr o feddwl tra difrifol, ac yn ymddangos yn teimlo yn ddwys yn achos iachawdwriaeth ei wrandawwyr; a thra y mae yn amlwg yn edrych ar yr efengyl o safle Arminaidd, ac yn rhoddi