Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/302

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darluniad tra annghywir o'r syniadau Calvinaidd ar Arfaeth ac Etholedigaeth gras, y mae, ar y cwbl, yn llawer mwy cymmedrol yn ei ysbryd a'i iaith na'r nifer amlaf o ysgrifenwyr ar ei du ef i'r ddadl.

Gyda golwg ar Draethawd Mr. Wesley, nid yw y cyfieithydd wedi cyflawni ei waith cystled ag y buasai yn ddymunol, er ei fod yn llawer gwell o ran ei iaith na'r man-draethodau a gyhoeddasid yn flaenorol, ac nag odid un o'r llyfrau, a gyhoeddwyd yn y blynyddoedd canlynol, gan y brodyr Wesleyaidd. Ond y mae yn hawdd gweled nad oedd y cyfieithydd, eto, ond lled anghyfarwydd yn yr iaith Gymraeg. Y mae ffurfiad y brawddegau yn dra amrosgo, ac mewn dullwedd rhy Seisnigaidd; fel na ellir prin ddarllen un tu dalen o hono heb deimlo mai cyfieithiad ydyw. Fe ddygwyd y llyfr allan drachefn, yn y flwyddyn 1830, mewn cyfieithiad newydd, gan Mr. Edward Jones, Llantysilio. Mae hwn, oddieithr mewn ychydig fanau, yn gyfieithiad tra rhagorach, ac yn darllen braidd fel cyfansoddiad Cymreig gwreiddiol. Y mae y traethawd yn cael ei gydnabod fel ymosodiad nodedig o alluog ar y golygiad Calvinaidd ar Ragluniaethiad, o leiaf ar y golygiad hwnw fel y deallid ef gan Mr. Wesley, er ei fod yn hytrach fel un yn cau ei lygaid ar yr anhawsderau cysylltiedig a'i Gyfundraeth ei hunan. Ond, oblegyd y dôn ddifrifol a gymmerir ganddo, ac, yn enwedig, oblegyd yr hyn yr oedd efe ei hunan fel wedi ei arfaethu iddo,—ei anallu i ganfod, o leiaf i gydnabod, nad ydoedd y syniad am Etholedigaeth rhyw rai i ffydd ac ufudd-dod, yn angenrheidiol yn cynnwys y syniad am Wrthodedigaeth ereill, neu benderfyniad penarglwyddiaethol i'w dinystrio, heb un golygiad neu rag-olygiad ar eu hannghrediniaeth a'u hanufudd-dod oblegyd hyn, yr oedd, ar y pryd, megis ag y mae eto, yn dra chyfaddas i greu gwrthwynebiad cryf mewn rhyw fath o feddyliau yn erbyn Calviniaeth, ac felly i wasanaethu yr amcan oedd yn arbenig yn ngolwg yr awdwr wrth ei gyfansoddi, a'r ddau gyfieithydd wrth ei ddwyn allan yn yr iaith Gymraeg. Yn ol Mr. Wesley, yn y llyfr hwn, y mae Etholedigaeth yn cynnwys, "Yn gyntaf, neillduo rhai dynion i gyflawni rhyw waith neu swydd, neu i fwynhau rhyw ddoniau a breintiau eglwysig. Yr wyf yn credu," meddai, "fod yr etholedigaeth hon nid yn unig yn bersonol, eithr hefyd yn hollol ac anammodol. Yn ail, credaf fod etholedigaeth yn cynnwys gwaith Duw yn rhagdrefnu rhai dynion i hapusrwydd tragywyddol. Ond fy marn yw fod yr etholedigaeth hon yn ammodol, yn gystal a'r gwrthodedigaeth sydd yn wrthwyneb iddo,