Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/303

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a bod yr arfaeth dragywyddol mewn perthynas i'r naill a'r llall yn cael ei gosod allan yn y geiriau hyny, Yr hwn a gredo a fydd cadwedig; a'r hwn ni chredo a gondemnir "(tu dal. 16, 17). Y mae yn myned rhagddo i ddadleu dros Brynedigaeth Gyffredinol, Cwymp oddiwrth Ras, a'r pynciau ereill a gynnwysir yn y Gyfundraeth Arminaidd; ond mewn dull hynod o un-ochrog a thra taëogaidd, a hollol annheilwng, yn ein bryd ni, i'r pynciau sydd ganddo dan sylw; i'r ddysgeidiaeth ddiammheuol oedd yn eiddo iddo ef ei hunan; ac i'r hyn a allasai wybod, ac a wyddai yn dda, oedd golygiadau cyffredin ysgrifenwyr Calvinaidd, y rhai a gam-ddarlunir mor ddychrynllyd ganddo. Mae mewn un adran, wrth ddadleu yn erbyn yr hyn a olygir ganddo ef yn syniad Calvinaidd am Wrthodedigaeth, yn myned mor bell ag i wadu y buasai yn gyfiawn i'r Duw mawr adael pawb, yn eu cyflwr cwympedig: a phe buasem ni mor barod ag ef, i wneuthur ein casgliadau ein hunain yn rhanau hanfodol o'i gredo ef, ni a allasem ddadleu, ei fod ef yn gwadu yn gwbl fod iachawdwriaeth pechaduriaid wedi tarddu o ras. Ni a wyddom y gwnaethem gam ag ef pe gwnelsem hyny: a'i fod ef yn credu, yn ei ystyr ef, mor ddiysgog a ninau, fod iachawdwriaeth i'w holrhain i ras i gyd. Dyna y cyweirnod megis i'r bregeth dra gwrth-Galfinaidd hono, a bregethwyd ganddo yn Mristol, yn y flwyddyn 1740, "Free Grace" (Works, Vol. VII. pages 373—386); ac nid ydym yn ammeu dim nad dyna ei brofiad cyson ef ei hunan. Ond pa beth a ddywedir am y syniad canlynol? Yr ydym yn dyfynu o gyfieithiad Mr. Edward Jones, Llantysilio, am ei fod yn hytrach yn well yma nag un Mr. John Hughes:"A feddyliech chwi y torir y cwlwm wrth ddywedyd, os gallasai Duw yn gyfiawn fyned heibio i bawb,' (llefarwch yn groew, 'Os gallasai Duw yn gyfiawn wrthod pawb'—canys fe ddaw hyny i'r un pwynt,) 'yna fe allasai yn gyfiawn fyned heibio i rai. Ond fe allasai Duw yn gyfiawn fyned heibio i bawb.' A ydych chwi yn sicr o hyny? Yn mha le y mae hyny yn ysgrifenedig? Ni fedraf ei ganfod yn ngair Duw. Gan hyny yr wyf yn ymwrthod ag ef fel haeriad hyf ac ansicr, heb un gradd o gymhorth iddo ('utterly unsupported' ydyw geiriau Mr. Wesley) yn yr Ysgrythyr Sanctaidd.' Os dywedwch, Ond chwi a wyddoch yn eich cydwybod eich hun y gallasai Duw yn gyfiawn fyned heibio i chwi'; yr wyf yn gwadu hyny. Yr wyf yn addef y gallasai Duw yn gyfiawn fy rhoi i fynu am fy anffyddlondeb i'w ras ef: ac y mae yr addefiad hwn yn cynnwys ynddo y dyb fy mod wedi cael y gras hwnw