Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/306

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ddadl Arminaidd,—" Ffynhonnau Iachawdwriaeth, &c." Nid oes yr un amseriad ar y wyneb-ddalen, fel ag i benderfynu pa bryd y cyhoeddwyd y traethawd hwn: ond y mae yr awdwr yn dyddio "Y Rhagymadrodd at y Darllenyddion,"—"Caeaugwynion, 23ain o Fawrth, 1805," fel y gallwn fod yn sicr ei fod wedi ei gyhoeddi yn y flwyddyn hono. Mae y cyfansoddiad hwn yn ymddangos i ni yn un tra rhagorol: yn rhoddi eglurhâd goleu a manwl a chywir ar y syniadau Calvinaidd ar yr amrywiol bynciau mewn dadl; gydag amddiffyniad grymus iddynt, oddiwrth yr Ysgrythyrau sanctaidd; ac Atebion penderfynol a chwbl dêg a phriodol, i'r amrywiol wrthddadleuon a ddygid yn mlaen yn eu herbyn gan Mr. Wesley, ac i ambell sylw a wneir, yn achlysurol, gan ei gyfieithydd, Mr. John Hughes. Y mae yr awdwr, yn y llyfr hwn, yn dadleu dros Galviniaeth fanwl, gan sefyll yn gadarn dros y "Pum Pwnc:" ond eto yn dadleu yn bendant dros ddigonolrwydd anfeidrol aberth ac iawn Crist, fel na chyfrgollir neb o eisiau digonedd o haeddiant a gras ynddo ef ar gyfer y penaf o bechaduriaid, nac o ddiffyg galwad ddihoced yn yr efengyl ar bechaduriaid yn ddiwahaniaeth i gyfranogi o honynt, gyda sicrwydd llawn, ond ufuddhau iddi, am fywyd tragywyddol. Y mae y cwbl wedi ei ysgrifenu mewn ysbryd hollol Gristionogol, ac mewn tymher ac iaith addfwyn a boneddigaidd; ond eto yn arddangos ymdeimlad dwys â'r perygl cysylltiedig a'r athrawiaethau y dadleua yn eu herbyn. Y mae yn ymddangos i ni, a'i gymmeryd gydâ'i gilydd, yn gystal esiampl ag odid un a welsom erioed o ymchwiliad gonest a phwyllog a manwl i ystyr yr Ysgrythyrau Sanctaidd ar yr amrywiol bynciau sydd ganddo dan sylw; ac o ymresymiad têg a didwyll oddiwrthynt, yn mhlaid y syniadau a amddiffynir ganddo ei hunan. Ac nid oedd bosibl i'n hen dadau, y rhai a ymroddent i ddarllen ac astudio y fath lyfr a hwn ac ereill o gyffelyb ysbryd a nodwedd, a ddygid allan o'r wasg y blynyddoedd hyny, beidio a bod yn gryfion yn athrawiaethau gras.

Tua'r un amser, ni a dybygem, ag y cyhoeddwyd y llyfr hwn gan Mr. Benjamin Jones, fe gyhoeddwyd traethodyn bychan, gan un o'r brodyr Wesleyaidd, a elwid "Gwir Gredo yr Arminiaid, neu Atebiad i'r Gofyniad, Beth yw Arminiaeth?" Ni ddygwyddodd i ni erioed weled hwn, ond yr ydym yn tybied ein bod wedi rhoddi ei enwad yn iawn. Yr ydym wedi cyfarfod yn fynych a chyfeiriadau ato dan un neu arall o'r enwau a roddwyd genym yn awr: er nad ydym yn hollol