Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/307

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sicr nas gallai yr "Atebiad i'r Gofyniad" fod yn llyfryn gwahanol i'r "Gwir Gredo." Yr oeddem yn arfer meddwl mai cyfieithiad ydoedd o draethodyn o eiddo Mr. Wesley, "The Question, What is an Arminian? Answered, By a Lover of Free Grace." (Works, Vol. X. pages 358—361.) Ond erbyn sylwi ar ddyfyniad a wneir o hono gan Mr. Jones, Dinbych, yn yr "Attodiad" i'r "Ymddyddanion rhwng Ystyriol a Hyffordd," tu dal. 428, y mae yn eglur nad yr un un a hwnw ydyw: ond ei fod naill ai yn gyfansoddiad gwreiddiol, neu, ynte, yn gyfieithiad o ryw draethodyn Seisonig arall, anadnabyddus i ni. Fe ledaenwyd y traethodyn hwn yn helaeth iawn trwy y wlad yn gyffredinol: ac, oddiwrth yr amrywiol gyfeiriadau a welsom yn cael eu gwneyd ato gan ysgrifenwyr ereill, rhai o honynt y mwyaf cyfrifol ar yr ochr Galvinaidd i'r ddadl, y mae yn ymddangos ei fod yn cael ei ystyried yn un o ddylanwad mwy na chyffredin.

Yn mhen ychydig amser ar ol hyn, fe ddygwyd llyfr allan o'r Wasg, a fu yn ddechreuad dadleuon a barhasant dros amryw flynyddoedd, a hyny gyda mwy o frwdaniaeth na dim a welsid braidd yn Nghymru erioed o'r blaen; y llyfr hwnw ydoedd,—" Drych Athrawiaethol; yn dangos Arminiaeth a Chalfinistiaeth, mewn ffordd o Ymddyddan rhwng dau gyfaill, Holydd ac Atebydd. Gan Thomas Jones. Bala, Argraffwyd dros yr Awdwr, gan R. Saunderson, 1806." Prin y mae yn angenrheidiol i ni hysbysu i neb o'n darllenwyr, mai yr un yw y Thomas Jones" hwn ag a adwaenid wedi hyny ac eto fel y Parch. Thomas Jones, Dinbych. Y mae yn ymddangos fod y llyfr hwn wedi ei gyfansoddi tua'r un amser ag y cyhoeddwyd "Ffynhonnau Iachawdwriaeth, &c.," gan Mr. Benjamin Jones, oblegyd y mae y "Rhagymadrodd at y Darllenydd " yn cael ei ddyddio, "Rhuthin, Mai 26, 1805." Pa fodd y bu na chyhoeddwyd ef hyd y flwyddyn ganlynol nis gwyddom, oddieithr fod a wnelai cystudd a marwolaeth ei briod—ei ail wraig—ryw beth a hyny; oblegyd yr ydym yn gweled yn ei "Gofiant" ef (tu dal. 64), iddi hi, wedi misoedd o nychdod a chystudd, "ymadael â'r byd hwn mewn tangnefedd, Awst 14, 1805." Nid ydyw hwn ond llyfr bychan, o ddeuddeg a thriugain o du dalenau deuddeg plyg: ac eto y mae yn gyfansoddiad tra gorchestol, ac, yn ddiammeu, yn cynnwys ffrwyth darlleniad manwl ar gyfrolau lawer; ac, yn neillduol, ffrwyth myfyrdod dyfal ar yr Ysgrythyrau Sanctaidd. Yr ydym yn cael ynddo eglurhad goleu a chywir a chryno ar yr hyn a ystyrid gan Mr. Jones