Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/308

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cyfansoddi hanfod y gwahaniaeth rhwng "Arminiaeth a Chalfinistiaeth," ar yr amrywiol bynciau y dadleuid yn eu cylch yna, y mae yn myned rhagddo i ddangos fod yr Arminiaid a'r Pabyddion yn cytuno braidd â'u gilydd ar y pynciau sydd yn gwahaniaethu yr Arminiaid oddiwrth y Calviniaid; ac, yna, y mae yn profi mai yr un o ran eu hanfod ydyw syniadau yr Arminiaid â'r hen Forganiaid; ac y mae yn tystio ei fod wedi cael ei argyhoeddi fod y rhai a elwir ganddo ef yr "Arminiaid presennol,"—sef, ni a dybygem, y Wesleyaid,—yn debycach i ac yn nes o ran eu syniadau at yr hen Forganiaid, nag y tybiai efe eu bod ryw ddeuddeng mlynedd cyn hyny, pan y cyhoeddasai ei draethawd ar "Undeb Crefyddol," y cyfeiriasom eisoes ato. Wedi hyny, y mae yn dyfynu amryw ranau o'r Ymddyddanion a fuasai yn y Gynnadledd Wesleyaidd, a gynnaliesid yn y flwyddyn 1744, ac allan o'r "History of the Methodists," gan Mr. William Myles, llyfr a gyhoeddasid yn Liverpool, yn y flwyddyn 1799, er prawf o hyny. Y mae yn llithro yn raddol i'r nodwedd hanesyddol oedd mor naturiol, dybygid, i'w feddwl ef, ac sydd yn rhoddi y fath arbenigrwydd, ac arbenigrwydd mor werthfawr, ar ei ymchwiliadau a'i ysgrifeniadau; ac y mae yn ystyried yn bwyllog y tystiolaethau a'r profion sydd genym mai yr un syniadau âg a adnabyddir yn awr megis Calviniaeth, ac nid y syniadau Arminaidd, a dderbynid gan yr eglwys Gristionogol mewn gwahanol wledydd, ac o oes i oes, o'r dechreuad. Mae yn cyfeirio yn fyr at ysgrifenwyr yr oesoedd cyntaf; y canol oesau; ac at y Diwygwyr Protestanaidd a'r Merthyron yn Lloegr, yn moreu y Diwygiad. Yna, y mae yn myned rhagddo i ddangos, mewn dull cryno ac eglur, fod yr un syniadau yn unol â'r Ysgrythyrau Sanctaidd yn eu hystyr naturiol a phriodol. Y mae yn gwneyd hyny yn bendant gyda golwg ar Etholedigaeth, Prynedigaeth neillduol, Cyflwr dynolryw wrth Natur, Ewyllys Rhydd, a Pharhad mewn Gras. Nis gall neb, ni a dybygem, hyd yn nod o'r rhai na chytunont âg ef yn ei olygiadau, lai na chydnabod fod gallu pell uwchlaw cyffredin yn cael ei arddangos ganddo yn y rhan yma o'r Llyfr. Pan yn sylwi ar Brynedigaeth, y mae yn addef y gwahaniaeth sydd wedi bod ac yn parhau rhwng Calviniaid a'u gilydd, gydâ golwg ar ei Helaethrwydd; ond yn dadleu ac yn dangos fod gwahaniaeth hanfodol rhwng golyg iadau pob math o Galviniaid ar y pwnc, a'r syniadau a goleddir ac a ddysgir arno gan Arminiaid (tu dal. 48, 49, 50). A'i gymmeryd gyda'i