Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/309

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gilydd, y mae y gwaith bychan hwn yn ymddangos i ni yn un rhagorol iawn ac, er fod yr awdwr yn amlwg yn argyhoeddedig o ŵyrni a niwed y syniadau a wrthwynebir ganddo, eto y mae yn ysgrifenu mewn ysbryd Cristionogaidd, ac mewn dull hollol foneddigaidd. Ni chyfarfuasom ynddo ond âg un ymadrodd yn ymddangos o nodwedd wrthwyneb i hyny. Pan yn sylwi ar Heb. x. 38, y mae, ar ol cyflwyno ger bron y darllenydd gyfieithiad Mr. Wesley, yn rhoddi ei hunan y cyfieithiad mwyaf llythyrenol" a allai arni, ac ar yr adnod ar ei hol; ac, wedi caniatau "fod y cyfieithiad sydd yn y Bibl yn well" na'r un a roddasid ganddo ei hunan, efe a ddywed,—"Ond am gyfieithiad Mr. W. y mae yn ddiau yn ddrwg: a da os nad oedd ei ddyben ynddo yn waeth" (tu dal. 54, 55). Yr oedd awgrymiad fel hyn yn dra anfrawdol, ac yn gwbl anesgusodol; ac, yn y cysylltiad presennol, yn dygwydd yn nodedig o annedwydd; yn gymmaint a bod yr hyn a roddasid ganddo ef fel cyfieithiad Mr. Wesley, yn dra gwahanol i'r hyn a gynnygiasid gan Mr. Wesley megis cyfieithiad gwell. Mae yn wir mai ei gam-arwain a gafodd Mr. Jones i hyny, gan lyfr a gyhoeddasid gan rai o gyfeillion Mr. Wesley ei hunan; fel ag y profodd yn amlwg trwy ddangos y Llyfr, yn yr hwn yr oedd y geiriau megis y dyfynasai efe hwynt, i Mr. Owen Davies (Ymddyddanion rhwng Ystyriol a Hyffordd: Attodiad, tu dal. 426), pan oedd hwnw yn ei gyhuddo ef o fod wedi gwneuthur y peth "mewn cenfigen a malais ac annghyfiawnder" (Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, tu dal. 61). Cydnabyddwyd hyn gan Mr. Owen Davies ei hunan (Ymddyddanion rhwng Hyffordd a Beread, tu dal. 367, 368), er, fel y mae yn ddrwg genym sylwi, heb un addefiad o ofid o'i fod ef wedi priodoli y cwbl "i gynfigen, malais, ac annghyfiawnder." Ond, heblaw yn unig y cyfeiriad hwn at Mr. Wesley, ni ddarfu i ni sylwi ar ddim yn ysbryd llyfr Mr. Jones ag y teimlem yn ei erbyn.

Gyda golwg ar Gynnwysiad y llyfr, fel Amddiffyniad i Galviniaeth ac ymosodiad ar Arminiaeth, y mae yn ymddangos i ni ei fod yn tueddu at fod braidd yn eithafol mewn dau beth:—1. Y mae yn arwyddo gormod o awydd i wneuthur yr hen dadau eglwysig, ac ysgrifenwyr ereill, yn Galvinaidd o ran eu syniadau, pan y mae yn ymddangos yn llawer tebycach nad oedd y pynciau mewn dadl, rhwng y Calviniaid a'r Arminiaid, erioed wedi ymgodi ger bron eu meddyliau; a phan y maent, yn sicr, yn llefaru mewn gwedd mor gyffredinol,