Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurus gyda'i hamgylchiadau allanol. Mae yn anhawdd dyrchafu gormod arni yn ei hymdrechiadau wedi ei gadael yn weddw i fagu ei phlant yn gysurus, ac yn enwedig i'w meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Gweddïai drostynt yn wastad ac heb ddiffygio. Mynych y clywid hi gan ei phlant, yn ei hystafell, yn ymbil drostynt gyda Duw mewn teimlad dwys a chyda thaerni mawr, a gadawodd hyny argraff ddofn ac annilëadwy ar eu meddyliau. A chlybu yr Arglwydd ei gweddïau. Cafodd eu gweled oll yn nhŷ yr Arglwydd, a gweled ei meibion oll yn swyddogion ynddo, a thri o honynt yn weinidogion cymhwys y Testament Newydd.

Dywedir gan un o'r enw Margaret Jones, yr hon a fu am flynyddoedd yn gwasanaethu gyda'r Parch. John Williams, Dolyddelen, am un amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd yn y teulu yno, tra yr ydoedd hi yn aros ynddo, mewn cysylltiad âg Elinor Jones. Ryw bryd, pan oedd John Williams oddicartref, aeth Elinor i Dy'n-y-Fron i edrych am ei chwaer, a hyny yn lled foreu, pan oedd y teulu ar orphen eu boreu-bryd. Dywedodd Margaret ei chwaer (Mrs. Williams) wrthi y byddai raid iddi hi gymeryd arni yr addoliad teuluaidd yno y boreu hwnw. Ond gwrthodai, gan ddywedyd ei bod hi wedi bod yn gwneuthur hyny yn ei theulu ei hun cyn cychwyn oddicartref, ac y dylasent hwythau fod wedi myned trwy y gwasanaeth yn mhell cyn hyny. Yr oedd y pryd hyny, ac er ys cryn amser, yn dioddef gan ryw anhwyldeb, a barai, yn enwedig ar brydiau, ryw bensyfrdandod dirfawr a pheryglus. Felly, er mwyn ymwrthod yn mhellach a'r gwaith, dywedodd fod ei phen yn wir mor ddrwg fel yr oedd yn ofni, os aethai ar ei gliniau, mai prin y gallai gyfodi. Ond ni fynai ei chwaer a'r lleill yn y teulu eu nacâu. Dywedasant, os byddai eisiau, y cynnorthwyent hwy hi i gyfodi. O'r diwedd ryw fodd hi a gydsyniodd. Ac yr oedd yn dro hynod iawn. Yr oedd cymaint o ddylanwad gyda'r weddi fel yr ymollyngodd yr holl deulu i wylo, a gwaeddi, a llefain, gan ymdreiglo dros y cadeiriau, fel nad oedd yno neb, pa faint bynnag o eisiau cymhorth a allasai fod arni i godi oddiar ei gliniau, a dim meddiant ganddo arno ei hunan i weini un ymwared iddi. Yr oedd y tro yn un i'w gofio byth gan bawb o'r rhai oeddent yno yn bresennol.

Diweddodd ei dyddiau yn dangnefeddus, mewn llawn sicrwydd gobaith am iachawdwriaeth, a chan orfoleddu yn nglyn cysgod angau.