Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/310

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag i ganiatau i'r naill blaid yn gystal a'r llall honi hawl ynddynt, fel yn dysgu eu syniadau hwy. 2. Y mae yn ymddangos braidd yn rhy barod i rwymo y Wesleyaid wrth yr Arminiaeth isel a ffynai yn Holland, a pharthau ereill o'r Cyfandir, ac a ddysgid yn ysgrifeniadau yr Esgob Bull ac ereill yn Lloegr, heb wneyd un cyfrif o'r elfen efengylaidd—pa un bynag ai cyson ai annghyson ydyw â hi—sydd yn rhedeg trwy Dduwinyddiaeth Mr. Wesley, ac wedi hynodi ei Gyfundeb ef o'r dechreuad. Yr un pryd, y mae lle cryf i gasglu fod rhai o'r gwŷr ieuainc a dderbyniasid y pryd hyny i'r Weinidogaeth Wesleyaidd yn Nghymru, heb ryw lawer o ddeall am yr elfen y cyfeiriwn ati yn athrawiaeth y Cyfundeb y perthynent iddo: ac y mae yn sicr nad oedd cydnabyddiaeth rhai o honynt â'r iaith Gymraeg ond hynod o anmherffaith; fel yr ydym yn tueddu i feddwl nad oeddent bob amser yn deall llawn ystyr a grym y geiriau a ddefnyddid ganddynt er gosod allan eu syniadau eu hunain, ac i ddarlunio y syniadau a wrthwynebid ganddynt. Ac y mae yn ddiddadl hefyd nad oedd dim diffyg ar eu gelyniaeth at yr hyn a olygent hwy wrth Galviniaeth, nac ar eu haerllugrwydd yn ei herbyn: ac yr oeddent yn cael profion boddlonawl iawn iddynt eu hunain, yn en cynnydd a'u llwyddiant, fod y darluniadau a dynid ganddynt o honi, pa beth bynnag a ddywedir am eu cywirdeb neu eu hannghywirdeb, yn dra effeithiol er peri i liaws mawr ymwrthod â hi. Fel, rhwng pob peth, nad oedd yn annaturiol iawn i Mr. Jones eu rhestru gyda'r Arminiaid mwyaf isel.

Yn mhen ychydig amser wedi ymddangosiad y gwaith sydd wedi bod yn awr dan ein sylw, ac er ceisio gwrthweithio ei ddylanwad ar y wlad, fe gyhoeddwyd,—"AMDDIFFYNIAD o'r Methodistiaid Wesleyaidd, mewn Llythyr at MR. T. JONES; yn Atteb i'w lyfr, a elwir DRYCH ATHRAWIAETHOL; yn dangos Arminiaeth a Chalfinistiaeth, &c. Gan OWEN DAVIES. Wedi ei gyfieithu i'r Cymraeg, gan J. BRYAN. Caerlleon: Argraphwyd gan J. Hemingway, 1806." Llyfryn lled fychan ydyw hwn eto, heb fod prin yn 70 o du dalenau deuddeg—plyg. Fe welir mai yn yr iaith Saesonaeg yr ysgrifenwyd ef gan ei awdwr; ac y mae wedi bod yn hynod o annedwydd yn ei gyfieithydd. Y mae yn ammheus genym a fuasai yn bosibl iddo, yn mhlith ei holl frodyr, gael un llawer mwy annghymmwys at y fath waith. Dyma ymddangosiad cyntaf Mr. Owen Davies trwy y Wasg i amddiffyn ei olygiadau. A barnu yr awdwr oddiwrth y Llythyr hwn, ni a'i cymmerem yn amlwg