Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/311

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ŵr o deimlad crefyddol cryf; o dymher naturiol hynaws a boddlawn, yn tueddu at radd o ysgafnder, a braidd yn ymhyfrydu mewn tipyn o wawd a gwatwar; ond, yn un â'i holl galon yn mhlaid Wesleyaeth, ac heb ddim yn ormod ganddo i'w wneyd drosti. Eithr y mae yn amlwg nad oedd ond newyddian yn ei wybodaeth am y ddadl Galvinaidd, a bod ei wybodaeth hanesyddol yn nodedig o ddiffygiol; tra, yr un pryd, yr oedd mor anturus ac oraclaidd yn ei haeriadau, fel ag i'n synu pa fodd y gallai fod mor ddiofal yn nghylch bod yn fanwl ynddynt. Y mae y cyfeiriad hanesyddol cyntaf oll a wneir ganddo yn brawf pendant o'r nodwedd hwn, a berthynai iddo. Yr oedd Mr. Jones wedi honi (Drych Athrawiaethol, tu dal. 11) fod yr Eglwysi Protestanaidd . . . . cyn i Arminius gyfodi . . . . oll, o ran eu Herthyglau, eu Cyffesiadau, eu Catechismau, &c. yn dra agos i'r farn Galfinistaidd ; ac yn dra phell oddiwrth farn yr Arminiaid," ar y pynciau mewn dadl rhyngddynt a'u gilydd. Er ceisio gwrthbrofi hyn, ac er profi "fol ein diwygwyr, fel y Wesleyaid yn ein dyddiau ni, yn gwybod pa ffordd i fyned yn y blaen heb daro ar Babyddiaeth ar un llaw, na Chalfiniaeth ar y llaw arall," y mae Mr. Owen Davies yn dyfynu o lyfr a elwir ganddo ef "Necessary doctrines and eruditions (sic) for any Christian Man," "yr hwn a gyhoeddwyd," medd efe, "yn y flwyddyn 1552, yr hwn a alwodd brenhin Harri yr wythfed yn lyfr Archesgob Cranmer ei hun" (Amddiffyniad, tu dal. 8.) Ond druan, o Mr. Owen Davies! Yr oedd yma yn dyfynu o lyfr Pabaidd, a gyhoeddwyd, yn ol Mr. Jones, "gan frenhin crealon-babaidd, pan oedd y grefydd Babaidd yn unig yn oddefedig, dros y deyrnas. Mae'n gyflawn o athrawiaeth Babaidd; yn amddiffyn saith o sacramentau, y'nghyd a thraws-sylweddiad; addoli o flaen delwau, a'u cusanu; gweddïo ar y seintiau; a gweddïo dros y meirw: mae'n ceisio dirymu y pedwerydd gorchymyn, gan gystadlu dyddiau gwyl i'r seintiau â'r dydd Sabbath; mae'n gwahardd i'r offeiriaid briodi; ac yn gorchymyn cyffesu pechodau yn nghlust yr offeiriaid, gan ddywedyd fod ganddo awdurdod i'w maddeu! Yn fyr, mae ynddo lawer o sothach Babaidd yn ychwaneg: Ac allan o'r domen hon y mynai Mr. D. roi i ni brawf o athrawiaeth y Diwygwyr Protestanaidd!! Sicr ydyw, ddarfod iddo (o'i lwyr anfodd, ni a goeliwn) roi prawf yn chwaneg o gyfagosrwydd Arminiaeth a Phabyddiaeth (Ymddyddanion Ystyriol a Hyffordd: Attodiad, tu dal. 412, 413). "Fe gyhoeddwyd y llyfr dair gwaith yn oes y brenhin Harri: yn gyntaf yn