Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/312

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1534; wedi hyny, gyda chwanegiad, yn 1540; ac yn olaf yn 1548; blwyddyn nodedig (fel amryw o'i blaen, a rhai ar eu hol) am losgi gair Duw, a llawer o gyrph y saint!" Ond, er i Mr. Jones fel hyn alw sylw arbenig Mr. Owen Davies at y peth trwy y Wasg, ac heblaw hyny rhoddi rhybudd personol iddo o'r un peth mewn ymddyddan (Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies: Attodiad, tu dal. 120), yr oedd Mr. Davies yn parhau i ddyfynu o'r llyfr, neu i gyfeirio ato, fel yn cynnwys syniadau y Diwygwyr Protestanaidd. Ond, yn y diwedd, y mae yn gorfod cyfaddef (Ail Lythyr at Mr. T. Jones, yn niwedd yr Ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread, tu dal. 358), nad oedd efe yn gwybod dim am dano ond fel yr oedd yn ei weled yn cael ei ddyfynu gan awdwyr ereill; ac yr oedd mor ddiofal yn nghylch y gwirionedd hanesyddol ar y cwestiwn, âg i wneuthur y cyfaddefiad, bu agos i ni ddywedyd, braidd anfaddeuol mewn awdwr ar destyn o'r fath,—" Pa un ai eich hanesydd chwi ai fy hanesydd i sydd nesaf i'w lle, nis gwn, ac nis gwaeth genyf ychwaith;" ac y mae mor ddigywilydd ag i alw y cywiriad syml a wnaed gan Mr. Jones ar ei gamgymeriad yn "ddefnydd enllibus" o hono. Y mae yn ddrwg genym nas gallwn mewn un modd ganmol Mr. Owen Davies am ei degwch dadleuol; y mae y llyfryn cyntaf hwn o'i eiddo yn cynnwys enghreifftiau lawer o'r hyn sydd hollol groes i hyny. Sylwer, er esiampl, ar yr hyn a ganlyn:—"Yn ddau bwngc yma, sef pechod gwreiddiol a chyfiawnhad trwy ffydd, y mae'r Calfinistiaid a'r Arminiaid ynte yn cyd-uno; canys y Calfinistiaid yn mhob oes ydynt yn dal mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn. Ond os ydych chwi yn dywedyd nad trwy ffydd, eithr trwy gyfrifiad o gyfiawnder Crist y mae dyn yn cael ei gyfiawnhau, yr ydych chwi yn cyd-uno â'r Antinomiaid. Nid Calfiniaeth, ond dyfnder Antinomiaeth yw hyn; gan hyny bydded hyspys i chwi, ïe, bydded hyspys i'r holl fyd ein bod ni yn gwahanu oddiwrthych, ac yn dywedyd gyda'r Apostol, ein bod ni yn cael ein cyfiawnhau trwy ffydd, ac nid trwy gyfrifiad Antinomaidd—athrawiaeth sydd yn rhoddi drws agored i bob aflendid, ac yn archolli Crist dan rith ei ddyrchafu" (Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd, tu dal. 28, 29). Hyny yw, y mae yn anmhosibl i'ch cyfiawnhad fod trwy gyfrifiad o gyfiawnder Crist a thrwy ffydd ac os ydych yn dal fod Duw yn edrych ar, ac yn ymddwyn tuag at bechadur fel un cyfiawn ar sail neu er mwyn cyfiawnder Crist, yna, yr ydych yn dal nad oes angenrheidrwydd am ddim yn meddwl y