Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/313

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pechadur ei hunan, er ei ddwyn i undeb â Christ ac er cyfreithloni yr Anfeidrol i ymddwyn felly tuag ato ef ragor na thuag at y rhai a gollfernir ganddo ac, o'r tu arall, os dadleuwch fod eisiau rhywbeth felly yn ei feddwl ef,—os ydych yn dal cyfiawnhad trwy ffydd,—yr ydych o angenrheidrwydd yn dal hefyd nad oes eisiau dim tu allan i'r dyn ei hunan yn sail y cyfiawnhad hwnw, ac yn rheswm paham y mae perchen ffydd mwy na rhyw un arall yn cael ei gyfiawnhau! Nid ydym yn meddwl y ceir dim mor annheg, heb sôn am mor annghyson, â hyn yn holl ysgrifeniadau Mr. Jones. Yr oedd efe yn ddadleuwr teg iawn. Fe allasai fod, weithiau, yn atgas; ac yr oedd, fe ddichon, yn rhy dueddol i awgrymu amcanion heb fod y rhai mwyaf dihoced i'r rhai yr ymosodai yn eu herbyn; ond nid ydym byth yn teimlo ei fod yn dywedyd dim sydd yn arwyddo ei fod yn amcanu cymmeryd un fantais ymddangosiadol ar ei wrthwynebwr, ond lle y byddai efe ei hunan yn gwbl argyhoeddedig fod iddo fantais wirioneddol. Mae cymhariaeth o'r ddau lyfr cyntaf hwn, yn y dadleuon rhyngddynt, yn dangos i ni wahaniaeth arall, amlwg, rhwng y ddau awdwr. Y mae Mr. Jones, tra yn fwy brathog, yn llawer mwy cymmedrol yn ei ddull na Mr. Davies tra y mae Mr. Davies drachefn, er proffesu mwyneidd-dra, ac er teimlo yn gyffredin, ni a dybygem, braidd yn hollol felly, etc agos yn mhob tu dalen, yn cyhuddo Mr. Jones o " ddwyn cam—dystiolaethau," o "ysbryd enllibaidd," "dall-bleidiaeth," "cyfrwysdra enllibaidd," &c.; ac y mae unwaith ac eilwaith a thrachefn yn cyfnewid ac yn cwtogi brawddegau Mr. Jones, fel ag i beri iddynt ymddangos yn rhoddi ystyr hollol wahanol i'r hyn a amcenid ganddo ef. Yr oedd Mr. Davies, ni a dybiem, yn un a allai ffraeo yn rhwydd heb golli nemawr ar ei dymher, o leiaf fe ddeuai ato ei hunan yn dra buan: a Mr. Jones, o'r tu arall, yn un pwyllog, tawel,—yn myned rhagddo yn gyffredin yn dra digyffro,—ond, wedi ei ddigio, yn gallu gwânu yn ddidrugaredd; ac yn un nad oedd yn hawdd iawn ei ennill i gymmod drachefn.

Yn niwedd y "Drych Athrawiaethol," tu dalen 72, addewid, os trefnai Rhagluniaeth, "Traethawd helaethach" ar y pynciau yr ymdrinid ȧ hwynt yn hwnw. Yn y flwyddyn ganlynol fe gyflawnwyd yr addewid hono, ac fe gyhoeddwyd,—"Ymddyddanion crefyddol, (rhwng dau gymmydog) Ystyriol a Hyffordd, mewn ffordd Ymresymiadol, Hanesiol, ac Ysgrythyrol; y'nghyd ag Ychydig Sylwadau ar Lythyr Mr. Owen