Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/314

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Davies, at yr Awdwr; a Phrawf o Anghysonedd y Diweddar Barchedig J. WESLEY mewn Amryw Bynciau o Athrawiaeth. Gan T. Jones. Bala, Argraffwyd tros yr Awdwr gan R. Saunderson. 1807."—Mɛe hwn yn llyfr helaeth, yn cynnwys dros bedwar cant a hanner o du dalenau, ac yn yr un plyg a'r "Drych Athrawiaethol." Mae y "Rhagymadrodd at y Cymry" wedi ei ddyddio, "Rhuthin, Mai 27, 1807." Mae y llyfr hwn yn un tra rhagorol. Nid yn unig nid oedd genym y pryd hyny, ond nid oes genym eto, yn ein hiaith, ar y pynciau dan sylw, ac yn y dull yr ymdrinir â hwynt, ddim i'w gystadlu ag ef; ac nid ydym yn gwybod fod gan y Saeson ddim cyffelyb iddo. Mae yn cynnwys Eglurhâd helaethach a manylach nag a roddir yn y "Drych Athrawiaethol," ar natur y gwahaniaeth rhwng Arminiaeth a Chalviniaeth; ac yn cyflwyno profion hanesyddol cryfion fod y syniadau a elwir yn Galvinaidd, o ran y sylwedd o honynt, yn cael eu derbyn a'u dysgu gan gorph y wir eglwys trwy yr holl oesoedd. Mae yn dyfynu yn helaeth allan o'r prif awduron, trwy yr amrywiol oesoedd ac mewn gwahanol wledydd, yn gystal âg o Gredoau amrywiol eglwysi, er tystiolaeth i'r honiadau a wneir ganddo. Mae y nodwedd hanesyddol hwn a berthyn i'r llyfr yn gosod gwerth gwirioneddol arno; ac yn dangos fod yr awdwr mewn ymdeimlad calon âg egwyddor bwysig, yn ei ymchwiliadau duwinyddol, nad ydyw pawb eto yn talu digon o sylw iddi—credo yr eglwys fawr gyffredinol, yn ystyr briodol y dynodiad hwnw.

Mae mewn Attodiad yn niwedd y llyfr, yn gwneyd rhai sylwadau ar yr "Amddiffyniad o'r Methodistiaid Wesleyaidd," a gyhoeddasid gan Mr. Owen Davies, yn y ffurf o Lythyr ato ef, mewn Atebiad i'r "Drych Athrawiaethol." Ac, yn sicr, y mae yn anhawdd meddwl am wrthbrawf mwy pendant nag a roddir ganddo i'r haeriadau anturus, disail, a wneid gan ei wrthwynebwr. Mae yn gwneyd hyny, ar y cwbl, yn lled foneddigaidd: ond yn gryf, yn onest, ac yn ddiarbed; ac weithiau braidd yn llym. Mae yr un tuedd ag y cyfeiriasom ato, a ganfyddir unwaith o leiaf yn y "Drych," i awgrymu amcanion hocedus i'w wrthwynebwr, yn dyfod i'r golwg yma yn awr ac eilwaith. Yr oedd gofal Mr. Jones am gywirdeb hanesyddol y fath fel ag yr oedd pob peth croes i hyny yn dra atgas ganddo; a phan y cyfarfyddai â rhyw haeriad yn rhoddi prawf anfad o annghywirdeb, nis gallai ymattal rhag rhoddi dyrnod; ac ni byddai yn cymmeryd gofal bob amser ar iddo fod yn ysgafn. Pan yn gwrthbrofi honiad Mr. Owen Davies fod