Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/315

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"yn amlwg "nad yw Eglwys Loegr "ddim yn erbyn perffeithrwydd," a bod hyny yn amlwg oddiwrth ei homili ar ddydd Gwener y Croglith" (Amddiffyniad, tu, dalen 34), efe a ddywed,—"Nid mwy geirwir y ceir ef yn wyneb hon. Y gwir yw, ei bod yn amlwg, yn llwyr—amlwg, yn ei erbyn. Dyma un ymadrodd sydd ynddi; Nid oes un dyn yn fyw, nac oes mo'r cyfiawnaf ar y ddaear, nad yw'n syrthio seithwaith yn y dydd, fel y dywed Solomon,' Diar. 24. Mae ynddi hefyd aml ymadrodd yn ychwaneg yn tueddu'r un ffordd. Och! ai perffeithrwydd mewn pechod y mae Mr D. am ei ddangos, wrth daeru o blaid ei berffeithrwydd dibechod?" Mae yma amryw frathiadau o'r fath, ag y dymunasem eu bod allan, er, fe ddichon, nas gallwn ni fod yn yr amgylchiadau goreu i farnu maint y demtasiwn a deimlent hwy, o'r ddau tu, ar eu meddyliau i'r hyn dybiem ni y buasai yn hawdd iddynt ei osgoi.

Mae yr Awdwr, yn yr "Attodiad" hwn hefyd, yn dwyn prawf lled helaeth, ac i'w feddwl ef cwbl benderfynol o "Anghysonedd" Mr. John Wesley âg ef ei hun, ar amryw o'r pynciau mewn dadl; ac y mae yn gwneuthur hyny yn y fath fodd ag y byddai yn anhawdd, ni a dybygem, i bawb, oddieithr Mr. Wesley ei.hunan, allu dangos pa fodd yr oedd yn esbonio eu cysondeb iddo ei hun. Nid ydym yn ammeu dim nad oeddent yn ymddangos felly iddo ef—hyny yw, y rhai y dadleuai drostynt,—a bod rhyw beth, iddo ef, yn gwasanaethu fel dolenau cydiol, i wneuthur yr hyn sydd yn ymddangos i ni yn ddarnau, iddo ef yn un gadwyn. Mae Mr. Jones yn y rhan yma o'r llyfr, gan ddilyn Sir Richard Hill, yn ymddangos i ni yn llawer rhy eithafol, yn neillduol yn y cyfeiriad a wna at eiriau Mr. Wesley ar ei wely angeu:—"I the chief of sinners am, But Jesus died for me!" Nid oedd yma, dybygem ni, ond datganiad o brofiad cydweddol hollol â theimladau pob gwir gredadyn; ac nis gallwn ni weled dim croes ynddo i'r hyn a ddysgid gan Mr. Wesley am "Berffeithrwydd Cristionogol," neu am "Brynedigaeth Gyffredinol."

Mae Mr. Jones yn y llyfr hwn (tu dal. 347, 348), fel ag y gwnelsai yn y "Drych Athrawiaethol" (tu dal. 48, 49, 50), yn cyfeirio at y gwahaniaeth sydd yn ngolygiadau y Calviniaid yn mhlith eu gilydd yn nghylch Helaethrwydd y Prynedigaeth: ac er ei fod ef yn esbonio y geiriau "byd," "yr holl fyd," "pawb," "pob dyn," &c., fel yn golygu "mai meddwl yr Ysbryd Glan ynddynt ydyw, fod Crist yn Iachawdwr