Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/316

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn Brynwr i'r Cenedloedd yn gystal a'r Iuddewon, neu i bawb o bob cenedl a gaffo galon i ddyfod ato; a bod ei waed wedi cael ei dywallt i'r dyben o olchi tyrfa fawr o bob rhyw, gradd, a chenedl o fewn y byd;" eto, meddai,—ac ni a ddymunem sylw neillduol y darllenydd at ei gyfaddefiad,—" yn hyn mi a ddymunwn beidio bod yn anmhlygadwy, nac yn rhy gadarn yn fy meddwl fy hun.—Yr wyf yn addef fod holl hiliogaeth Adda tan rwymedigaethau mawrion i'r ail Adda, am mai ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll,' Col. i. 17.— O'i herwydd ef, trwyddo ef, ac er ei fwyn ef, y mae'r efengyl yn cael ei chyhoeddi i bawb sy'n gyfranog o'r fraint o'i chlywed: Ac mae hi yn newyddion da, yn achos o lawenydd mawr i'r holl bobl, er fod llawer yn ei gwrthod, neu ei cham-ddefnyddio; ac er y gwyddai Duw yn dda y gwnaent hyny, cyn ei danfon atynt.—Yr wyf yn meddwl hefyd y dylai pregethwyr yr efengyl, gyda dangos i bawb eu heisiau o Grist, gymhell pawb i'w dderbyn, ac felly i dderbyn maddeuant pechodau, ac iachawdwriaeth, drwyddo ef." Mae hyn yn ddigon, ar unwaith, er profi nad oedd dim cyfyngder yn ngalwad yr efengyl, yn ngweinidogaeth yr hen Fethodistiaid.

Dyma, yn ein bryd ni, y llyfr pwysicaf a gwerthfawrocaf a gyhoeddwyd yn ystod yr holl ddadleuon rhwng yr Arminiaid a'r Calviniaid. Ar y tu Calvinaidd i'r ddadl anhawdd fyddai i'r efrydydd gael un gwell i'w ddwylaw. Y prif goll, feallai, ynddo, ydyw diffyg eglurhad priodol ar seiliau rhwymedigaeth dyn i ufudd-dod, ac ar natur ei anallu i sancteiddrwydd. Nid oedd yr awdwr, ni a dybygem, erioed wedi gweled, o leiaf yr oedd, y mae yn amlwg, heb ymgydnabyddu âg ysgrifeniadau Mr. Trueman, Mr. John Howe, ac, yn neillduol, Mr. Jonathan Edwards, ac ereill, o'r ysgrifenwyr Calvinaidd mwyaf manylaidd diweddar; ac, felly, nid ydyw yn gadael y darllenydd ar dir mor oleu ag y byddai dymunol am gyfrifoldeb y pechadur yn wyneb ei anallu. Ond, gyda golwg ar y materion ereill, y mae yn dra chyflawn o wybodaeth hanesyddol, ac yn nodedig o alluog yn ei ymresymiadau Duwinyddol; ac y mae braidd yn sicr genym pe buasai y fath lyfr wedi ei gyhoeddi yn y Saesonaeg, yn y deyrnas hon neu yn yr America, y buasai ei glod yn nghlustiau pawb, a mwy, fe allai, nag un cyfieithiad o hono i'r Gymraeg, ac yn cyd-ymgais am dderbyniad gan y genedl. Ond, oblegyd ei fod yn gyfansoddiad Cymreig gwreiddiol, ychydig, mewn cymhariaeth, sydd yn gwybod dim am dano! Hwyrach