Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/317

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y dylem ddywedyd, cyn ei adael, ein bod yn ei ystyried yntau yr un mor agored a'r "Drych Athrawiaethol," i'r tuedd at y ddau beth a nodasom fel braidd yn eithafol yn hwnw. Ond yr oedd Mr. Jones ei hunan yn bell oddiwrth honi perffeithrwydd mewn dim a berthynai iddo ei hun.

Yn mhen ychydig wythnosau wedi ymddangosiad y llyfr hwn, fe gyhoeddwyd atebiad iddo,—"Ymddiddanion rhwng dau gymmydog, Hyffordd a Beread, yn dangos Cyfeiliornadau Calfinistiaeth; Y'nghyd â Dau Lythyr at Mr. Thomas Jones, yn gwrthbrofi ei brawf ef o Anghysonedd Mr. Wesley, a'i Sylwadau ar Lythyr Owen Davies. Gan Owen Davies. Caerlleon: Argraphwyd gan Joseph Hemingway. 1807."—Mae dyddiad y "Rhagymadrodd,"—" Dinbech, Gorphenaf 8, 1807." Y mae yn llyfr helaeth, yn cynnwys, rhwng y "Rhagymadrodd" a chorph y llyfr a'r Ddau Lythyr at Mr. Jones, dros bedwar cant of du dalenau deuddeg plyg. Pan y gwelir nad yw "Rhagymadrodd" llyfr Mr. Jones wedi ei ddyddio ond Mai 27, 1807, ac nad oedd felly ond ychydig dros fis rhwng cyhoeddiad y ddau, fe ymddengys ar unwaith yn beth tra dieithr pa fodd y gallasai Mr. Davies ddwyn llyfr o'r fath faintioli allan mor fuan: ac y mae yn ddiammheuol fod hyny yn destyn syndod mawr i laweroedd ar y pryd. Ond, wedi i'r peth ddyfod i'r golwg, nid oedd neb yn synu dim, oddieithr at fod Mr. Owen Davies yn ymostwng i'r hyn a wnaeth, er mwyn cael ei lyfr allan gyda'r fath frys. Ei amcan ef, yn ddiammeu, oedd ceisio attal, can gynted ag y gallai, yr hyn a ystyrid ganddo ef yn dra niweidiol,—dylanwad llyfr Mr. Jones ar feddwl y wlad. Y dirgelwch, pa fodd bynnag, am ei gyhoeddiad mor fuan ar ol y llall, oedd, fod Mr. Davies wedi cael gan un o'r argraffyddion, oedd yn weithiwr gyda Mr. Saunderson yn y Bala, ei gyflenwi ef â chopi o lyfr Mr. Jones, o len i len, fel yr ydoedd yn cael ei argraffu. Yr oedd y gweithiwr hwnw, yn ol tystiolaeth Mr. Saunderson yr hon a roddir gan Mr. Jones, yn ddyn nodedig ddigon am feddwdod a llawer o anfoes. Yr oedd gan y gwr hwnw hen gydnabyddiaeth â rhai o berthynasau Mr. Davies; a phan ddygwyddai i Mr. Davies ei hun fyned trwy dre' y Bala, fe anfonai am y dyn i'r tafarn-dŷ, lle y byddai yn rhoddi i fynu, i'w groesawu, mae'n debygol; ac i ormodedd fel y gwelwyd arwydd arno. Dyna'r eglurhad, fel y cafodd Mr. Jones ef gan Mr. Saunderson ("Sylwadau ar Lyfr Mr. Owen Davies," tu dal. 4, 5); ac nid ydyw Mr. Davies ("Sylwadau ar Lyfryn a