Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/318

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddwyd yn ddiweddar," &c., tu dal. 23.) yn ceisio gwadu yr un o'r ffeithiau a nodir gan Mr. Jones, ond yn amddiffyn yr hyn a wnaethai yr argraffydd, ac a wnaethai ei hunan, fel peth hollol deg a chyfreithlawn. Ni a welsom fod llyfr Mr. Jones ar wedd "Ymddiddanion rhwng Ystyriol a Hyffordd"; ac y mae llyfr Mr. Davies yn yr un dull, "Ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread." Y mae "Beread" yn cael ei olygu ac yn cael ei ddeall fel yn cyflwyno golygiadau Mr. Davies ei hunan; a "Hyffordd" yn cyflwyno golygiadau Mr. Jones. Ond am y llyfr, er fod ynddo ambell darawiad go dda, ac ambell sylw yn arwyddo fod ei awdwr o dymher naturiol dra happus ac yn gallu cymmeryd pethau yn lled ddigrifol, ac yn meddu tipyn o dalent at goegni, yr ydym yn teimlo ryw fodd dros Arminiaeth na buasai wedi bod yn fwy ffodus yn ei Hamddiffynydd, yn enwedig i gyfarfod y fath un a Mr. Jones. Y mae yr un diofalwch am fanylder hanesyddol, a'r un parodrwydd i wneuthur haeriadau cwbl ddisail, ag sydd yn nodweddu llyfr cyntaf Mr. Davies, yn fwy amlwg yn hynodi hwn. Y mae yn hòni yn ddifloesgni, am rai o'r awdwyr mwyaf Calvinaidd, eu bod yn hollol yr un farn ag ef, ar y pynciau mewn dadl; ac, yn ddibetrus ac yn barhaus, yn gosod yn ngenau "Hyffordd," hyny yw Mr. Jones, gam-ddarluniadau hollol o Galviniaeth, ac addefiadau na wnelsid mo honynt byth gan un Calviniad, a fuasai yn deall rhywbeth am natur y Gyfundraeth. Y mae yn cwyno yn ddirfawr yn erbyn Mr. Jones oblegyd na ddangosasai "y mesur lleiaf o hynawsedd a hawddgarwch Cristionogol tu ag at y rhai ag oedd heb fod yn gwbl o'r un feddwl a barn âg ef ei hun," ac yn meddwl am dano ei hunan ei fod yn arfer geiriau teg, a rhesymau cedyrn ("Rhagymadrodd" tu dal. vii., viii., ix.); tra y mae yn pentyru ymadroddion er cyhuddo Mr. Jones o "enllibiau; " "anwireddau dybryd a maleisus;" "aml-eiriau creulon ac enllibus;" "a'i holl rith-gostyngeiddrwydd yn amlygu'r fath raddau gwrthun o falchder trwy gymmeryd arno fod mor ddoeth;" "celwyddau dybryd;" "mewn dichell yn trawsnyddu ac yn dirdynu geiriau;" "eich digllonedd tanllyd;" "eich cynddaredd golynog; "a'r holl drahausdra a fedrai Satan enyn ynoch;" ac amryw bethau difriol cyffelyb. Ond yr oedd mor analluog, dybygid, i ddeall ystyr y brawddegau mwyaf cyffredin, ag ydoedd o barod i hòni y teimladau goreu a'r geiriau tecaf iddo ei hunan, a'r rhai gwaethaf o'r naill a'r llall i'w wrthwynebwr. Nis gallai weled math yn y byd o gysondeb