Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/319

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhwng cyfaddefiad Mr. Jones, gyda golwg ar rywbeth yn ei lyfr,— "Am unwaith, dyma ddywediad a gwirionedd ynddo"; a dywediad arall o'i eiddo, "Mae llyfr Mr. D. trwyddo oll yn frithlawn o gyfeiliornadau, ac o ddywediadau croes i'r gwirionedd" ("Hyffordd a Beread," tu dal. 363, 364); ac y mae fel un yn synu na buasai peth parch i enw y bobl yr oedd Mr. Jones mewn cymundeb â hwynt, os nad oedd ganddo ddim parch i'w enw da ei hun fel ysgrifenydd neu fel gweinidog, yn ei gadw rhag y fath wrth-ddywediad.

Mae yn dywedyd rhai pethau go dda er amddiffyniad i Mr. Wesley, yn ateb i'r cyhuddiadau o "anghysonedd" a ddygasid yn ei erbyn gan Mr. Jones, a phethau, yn ddiammeu, y dylasai Mr. Jones ei hunan eu hystyried. Ond y mae braidd yn ammheus genym ni a oedd y naill na'r llall o honynt yn gallu myned i mewn yn hollol i'r neillduolrwydd a berthyn i Wesleyaeth, fel athrawiaeth efengylaidd, ac ar yr un pryd yn gorwedd ar egwyddorion Arminaidd. O ddiffyg hyn, y mae Mr. Jones yn fynych yn gwneyd y gwahaniaeth rhyngddo ef â Mr. Wesley yn hytrach yn fwy nag ydoedd mewn gwirionedd, o leiaf yn fwy nag ydoedd yn ymarferol: a Mr. Davies, o'r tu arall, yn cael ei arwain i haeru ac i amddiffyn rhai pethau yn bynciol hollol annghydweddol â'r lle mawr sydd yn ymarferol i ras yn Nuwinyddiaeth y Wesleyaid. Ac felly yr ydym yn cael Mr. Davies yn myned mor bell, yn y llyfr hwn, ag i wneyd datganiadau tra anefengylaidd; megis," Ac nid yw ein Harglwydd yn cyfrif ei hun yn llai dyledwr iddynt hwy am eu Hewyllys Rhydd, nag ydynt hwy yn cyfrif eu hunain iddo yntef am ei Rad ras" (tu dal. 127); ac yn arbenig, yr haeriad hollol Forganaidd,—"Eithr âf rhagofi ofyn, Pwy sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth, Duw ai dyn, rhwng dau a gaffo eu galw, pan y byddo i un gael ei achub, a'r llall ei adael? A chan sylfaenu fy Atteb ar gyfiawn farn Duw, yr wyf yn casglu, Mai dyn sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth, ac nid Duw" (tu dal. 136). Nid ydym yn tybied y ceir y fath syniad a hwn mewn un man yn ysgrifeniadau Mr. Wesley: ac er y gellid dadleu ei fod yn gasgliad naturiol oddiwrth ei olygiadau ef ar ras cyffredinol, eto y mae braidd yn sicr genym y buasai efe yn dewis gorwedd dan unrhyw gyhuddiad o "anghysonedd" yn hytrach na honi dim mor anefengylaidd. Ond, fel y cytuna pob Calviniad deallus ag ef i osod bai colledigaeth pob dyn arno ef ei hunan, felly yr ydym yn tybied, fe gytunasai yntau a phob Calviniad i briodoli clod y gwahaniaeth yn unig i ras Duw.