Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/320

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn atebiad i'r gwaith hwn, fe ddygwyd allan, y flwyddyn ganlynol, lyfr drachefn," Sylwadau ar Lyfr MR. Owen DAVIES, sef ei Ymddiddanion rhwng Hyffordd a Beread; ynghyd â Gwobr o Bwys yn gynnygiedig iddo, ar Ammod Teg. Gan THOMAS JONES O Ruthin. Bala, Argraffedig gan R. Saunderson. 1808." Mae y "Rhagymadrodd" wedi ei ddyddio, Rhuthin, Awst 31, 1808." Y mae hwn, rhwng y "Rhagymadrodd" a chorph y llyfr, yn cynnwys 144 o dudalenau, o'r un plygiad, mewn llythyren lai, â'r llyfrau blaenorol yn y ddadl gan yr un awdwr. Y mae yn ymddangos i ni yn alluocach fel cyfansoddiad, ac yn arddangos mwy o ryw ysbrydiaeth ac yni nag a amlygasid o'r blaen gan Mr. Jones. Mae yn amlwg hefyd yn arwyddo mwy o chwerwedd, a digllonedd teimlad, nag sydd yn dyfod i'r golwg yn ei lyfrau blaenorol; yn neillduol at y dull annhêg a arferasid gan Mr. Owen Davies i gael gafael ar y prawfleni o'i "Ymddyddanion rhwng Ystyriol a Hyffordd" cyn i'r llyfr ddyfod allan o'r Wasg yn rheolaidd. Mae yn hawdd gweled ei fod yn teimlo yn ddwys hefyd oblegyd y dull anfoneddigaidd a arferasid gan ei wrthwynebwr i'w gyhuddo o "enllibiau," "anwireddau," "celwyddau," &c. Mae y llyfr, pa fodd bynnag, yn ychwanegiad gwerthfawr at y profion hanesyddol a gyhoeddasai yn ei lyfrau blaenorol, yn mhlaid yr hyn a honid ganddo am gyd—olygiad y syniadau Arminaidd ar Ewyllys Rydd, fel y deallai efe hwynt, ac fel yr oeddent, yn awr, yn cael eu dysgu yn groew gan Mr. Owen Davies—a'r hyn a ddysgid gan y Morganiaid a'r Pabyddion ar yr un pynciau; yn gystal âg o Galviniaeth hollol y Diwygwyr Protestanaidd a'r Merthyron yn Eglwys Loegr. Y mae y tystiolaethau a ddygir ganddo dros y peth diweddaf yma, yn y llyfr hwn, mor bendant fel nad ydym yn gweled fod Mr. Davies wedi gwneyd un ymgais i'w gwrthbrofi. Mae gonestrwydd a chywirdeb hanesyddol yr awdwr yn amlwg yn dyfod i'r golwg yn y Nodiadau a wneir ganddo mewn cysylltiad â'i "Ragymadrodd " er cywiriad ychydig o wallau amseryddol, yr oedd yn awr wedi cael allan y syrthiasai iddynt; a, thra yn tystio yn y modd mwyaf difrifol, gan ystyried ei hunan yn gyfrifol i Farnydd yr holl ddaear, na fedrai weled nac anwireddau, na chamgymmeriadau o bwys wedi eu cyhoeddi ganddo yn y pethau a ysgrifenasai, y mae yn galw yn ol ryw gyhuddiad a wnelsai yn erbyn rhyw bregethwr, yn y "Drych Athrawiaethol," tu dal 69, yr hyn, fel y deallasai yn ddiweddar, oedd rywbeth dros ben y gwir; ac y mae yn datgan fod yn ddrwg